Mark Allen

Mark Allen

Deiseb mam o Ruthun i wella diogelwch dŵr yn cael cydnabyddiaeth gan y Senedd

Cyhoeddwyd 03/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2023   |   Amser darllen munudau

Deiseb i wella diogelwch dŵr ac atal boddi yw Deiseb y Flwyddyn y Senedd. 

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn 2022 gan Leeanne Bartley o Ruthun wedi i’w mab, Mark Allen, farw ar ôl neidio i ddŵr oer mewn cronfa ddŵr. 

Casglwyd dros 11,000 o lofnodion gan ysgogi Pwyllgor Deisebau’r Senedd i gynnal ymchwiliad i ffyrdd o atal damweiniau drwy foddi yng Nghymru. O ganlyniad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i amrywiaeth o fesurau i wella diogelwch dŵr, fel penodi Gweinidog penodol i arwain y gwaith o atal boddi a datblygu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr. 

Drwy ddod â’r mater pwysig hwn i sylw gwleidyddion, drwy broses ddeisebu’r Senedd, llwyddodd Leeanne Bartley i sicrhau newid gwirioneddol yng Nghymru gan ennill lle ar restr fer Deiseb y Flwyddyn. 

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cyhoeddwyd mai deiseb 'Cyfraith Mark Allen' oedd Deiseb y Flwyddyn yng nghyfarfod Pwyllgor Deisebau'r Senedd ddydd Llun 3 Gorffennaf. 

Meddai Leanne Bartley, “Mae ennill Deiseb y Flwyddyn yn golygu gymaint i fy nheulu a minnau. Roedd Mark bob amser eisiau helpu eraill, ac rydym am iddo gael ei gofio am sut yr oedd yn byw ei fywyd. Mae ein deiseb yn parhau er cof amdano – a bydd yn achub bywydau.” 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i wneud rhai newidiadau pwysig yn sgil ein hymgyrch. Ond mae mwy i’w wneud, a chredaf y bydd addysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch dŵr, fel yr ymgyrch ‘arnofio i fyw’, yn achub bywydau.” 

"Mae'r broses ddeisebu wedi bod yn hynod gynorthwyol, ac rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y Pwyllgor. Os ydych chi'n angerddol am rywbeth, byswn yn bendant yn argymell dechrau deiseb os ydych chi am wneud gwahaniaeth. Ewch amdani!" 

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, “Llongyfarchiadau i Leeanne Bartley a phawb sydd wedi cefnogi – ac yn parhau i gefnogi – eu hymgyrch dros ddiogelwch mewn dŵr agored. 

“Mae Leanne wedi gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’i hymgyrch, ac wedi dod â phobl ynghyd i sicrhau’r newid. Nid yw’n syndod bod pobl Cymru wedi dweud mai hon yw Deiseb y Flwyddyn.” 

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli ac yn gweld y broses ddeisebu fel ffordd o ysgogi newid yng Nghymru.” 

Mae proses ddeisebu’r Senedd yn annog pobl i gasglu llofnodion wrth ymgyrchu dros achos sy’n agos at eu calon. Os bydd deiseb yn cael 250 o lofnodion, caiff ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau a gallant gomisiynu adroddiad yn dadansoddi’r mater yn fanylach. Os bydd dros 10,000 o bobl yn llofnodi deiseb, bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd a’i thrafod gan rai o wleidyddion gorau Cymru. 

Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, anfonwyd 187 o ddeisebau at y Pwyllgor a chasglwyd bron 130,000 o lofnodion gan bobl yng Nghymru a oedd cefnogi achos.  

O’r 187 o ddeisebau, enwebodd aelodau o’r Pwyllgor bump ohonynt i’w cynnwys ar restr fer Deiseb y Flwyddyn. Roedd y rhain yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau y mae pobl Cymru wedi ymgyrchu drostynt dros y flwyddyn ddiwethaf.   Gwahoddwyd pobl i ddangos eu cefnogaeth drwy bleidleisio ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Roedd y deisebau a enwebwyd yn galw am y canlynol: