Diwydiannau sgrin yn ffynnu ond gweithwyr yn talu’r pris – Pwyllgor Diwylliant

Cyhoeddwyd 18/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r diwydiannau creadigol ymhlith y sectorau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae’r diwydiant ffilm a theledu yn faes sy’n tyfu’n arbennig o dda. Amcangyfrifir bod cyfanswm trosiant diwydiannau creadigol Cymru yn cyfateb i 5% o gyfanswm CMC Cymru.

Fodd bynnag, mae sefydliadau fel Ffilm Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau Cymru, a Wales Interactive, sy’n cyhoeddi ac yn datblygu gemau cyfrifiadurol, wedi dweud wrth y Senedd bod y galw enfawr am eu gwaith yn arwain at bwysau difrifol ar eu gweithlu.

Dywedodd Ffilm Cymru fod y galw mawr am gynnwys yn golygu bod pobl yn gweithio oriau hir iawn, ac yn gweithio ar un cynhyrchiad ar ôl y llall heb y cyfnodau o seibiant y byddent wedi’u cael yn y gorffennol.  

Dywedodd Tom Ware o Brifysgol De Cymru fod yr amodau gwaith anodd, dwyster y gwaith, a’r sifftiau hir sy'n deillio o’r bwrlwm cynhyrchu yn y diwydiant sgrin yn effeithio ar weithwyr:

“Mae pobl yn gweithio oriau hir iawn, iawn, yn enwedig pan fyddant yn gweithio ar set, ar leoliad.  Mae’r strwythurau gwaith yn gaeth iawn ac mae hynny’n rhoi pobl dan bwysau. 

Mae'r Athro Justin Lewis o Brifysgol Caerdydd yn credu bod gan y Llywodraeth, mewn partneriaeth â darlledwyr, ran i’w chwarae yn yr ymdrechion i wella amodau gwaith yn y diwydiant sgrin.

Bwlio ac ymddygiad problematig

Er bod y sector sgrin yn ffynnu, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd am fwlio ac amodau gwaith gwael gan rai sy’n gweithio yn y diwydiant.        

Dywedodd un person a roddodd dystiolaeth: “Dwi wedi colli cyfri ar sawl gwaith dwi wedi gweld pobl yn cael eu cam-drin yn eiriol ar set. Mae egos cyfarwyddwyr yn beth go iawn ac, mae’n rhaid i fi fod yn onest, dyw e ddim yn creu amgylchedd gwaith dymunol – yn ôl pobl eraill rwy’n nabod, mi fydden i’n dweud ei fod yn beth cyffredin yn y diwydiant.”

Camau i’w cymryd

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ac i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a chwmnïau cynhyrchu, i wneud yn siŵr y gall gweithwyr weithio mewn amgylchedd lle nad oes gwahaniaethu, bwlio na rhagfarn.

Meddai Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:

"Mae ein diwydiant sgrin yn llwyddiant gwirioneddol yng Nghymru. Mae wedi’i sbarduno gan ddychymyg, arbenigedd a gwaith caled y bobl dalentog sy'n gweithio ynddo.

"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod gweithwyr yn talu'r pris am y galw enfawr ar y diwydiant. Rydym wedi clywed tystiolaeth sy’n peri cryn bryder i ni ynghylch oriau hir, dwyster y gwaith, a diwylliant ac arferion gwaith gwael a sut mae’r rhain yn creu amgylcheddau sy'n niweidiol i iechyd meddwl a llesiant y gweithlu.

“Er iddi ymyrryd er gwell hyd yma, credwn y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy eto i newid agwedd y diwydiant tuag at lesiant yn y gweithle drwy gydlynu’r gwaith o fynd i’r afael â hyn. Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd drwy gefnogi a hyrwyddo arfer gorau, a thrwy osod disgwyliadau ar gyfer y diwydiant.

“Mae’n annerbyniol bod gweithwyr yn wynebu bwlio yn y gwaith, a ddylai fod yn lle diogel iddynt.  Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn y diwydiannau creadigol y ng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofni rhagfarn, bwlio na gwahaniaethu.

Hanes dau ddiwydiant creadigol

Mae'r ymchwiliad a gynhaliodd y Pwyllgor wedi tynnu sylw at y ffaith bod y sector sgrin yng Nghymru, cyn pandemig Covid-19 ac wedyn, wedi tyfu'n sylweddol. Llwyddodd y sector i ymateb yn gyflym yn dilyn y cyfnod clo cychwynnol ac mae'n brysurach nawr nag erioed.

Ar y llaw arall, mae rhannau eraill o’r diwydiannau creadigol yn ei chael hi'n anodd. Nid yw sectorau’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth wedi adfer yn llawn ers y pandemig. Mae costau ynni sy’n codi i'r entrychion a’r ffaith bod cynulleidfaoedd yn araf iawn yn dychwelyd (o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig) wedi bod yn rhwystr.  Yn anffodus, er bod y sectorau hyn yn croesawu’r cymorth ychwanegol a gawsant gan Lywodraeth Cymru, mae lefelau chwyddiant uwch nag erioed wedi llyncu’r arian hwn.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad brys o sefyllfa ariannol lleoliadau celfyddydau yng Nghymru mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru, yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a sefydliadau eraill. Dylid cwblhau'r asesiad hwn cyn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn medru cynnig rhagor o gymorth ariannol os oes angen.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn awr i adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor.

 

Mwy am y stori hon

Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol: Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol