"Dydyn ni ddim eisiau i chwaraeon fod ar gyfer y bobl sy’n gallu ei fforddio yn unig.”

Cyhoeddwyd 15/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae angen ailfeddwl am bethau mewn ffordd radical i helpu pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Dyna gasgliad adroddiad gan un o Bwyllgorau’r Senedd, sy’n tynnu sylw at y duedd fod aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas yn dweud eu bod yn gwneud llai o weithgarwch nag oeddent cyn y pandemig, sy’n peri pryder.

Ac mae’r sefyllfa’n parhau i waethygu wrth i’r argyfwng costau byw orfodi pobl i ddewis rhwng chwaraeon neu fwyta – yn ôl y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi defnyddio chwaraeon fel mesur iechyd ataliol - ond mae Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor, yn dweud ei bod yn bryd gwireddu'r uchelgais hwnnw.

Dywedodd y canlynol: “Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad cryfach os ydym am wella mynediad at chwaraeon. Mae’r ymrwymiadau a wnaed hyd yma yn ddechrau da, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell.

“Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno dull cenedlaethol newydd o ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Bydd hefyd angen cyllid ychwanegol sylweddol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf a amlygwyd yn ein hadroddiad.

“Ond nid rhwystrau ariannol yn unig sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon – dyna pam rydyn ni hefyd am weld cyfleusterau yn cael eu hagor mewn ysgolion ac yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

“Credwn yn gryf, os gwireddir yr argymhellion yn ein hadroddiad, y bydd uchelgais canmoladwy Llywodraeth Cymru o chwaraeon yn cael eu defnyddio fel arf ataliol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, addysg a nifer o anghydraddoldebau eraill, yn cael ei wireddu'n llawn o'r diwedd.”

Fe wnaeth nifer o’r hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor godi’r problemau a achosir gan gostau byw cynyddol – yn enwedig i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Adleisir y pryderon hynny gan Johanna Cotterrall, cyd-sylfaenydd Clwb Rygbi Caerau Trelái. Mae’n dweud ei bod eisoes wedi gweld costau byw yn cael effaith ar bresenoldeb:

“Rydw i wedi gweld plant a rhieni yn gadael oherwydd allan nhw ddim ei fforddio. Yn enwedig gyda Covid a chostau byw yn ddiweddar, mae pobl wedi bod yn ei chael hi'n anodd prynu cit newydd i blant sydd wedi tyfu yn ystod y cyfnod clo. Neu dydyn nhw ddim yn gallu fforddio'r petrol i gyrraedd gemau, felly dydyn nhw ddim yn mynd.

“Rydyn ni wedi dosbarthu dros 100 pâr o esgidiau ers i ni ailddechrau ar ôl Covid. Roedd gennym ni fanc esgidiau y gallai pobl ei ddefnyddio - ond mae'n wag nawr. Beth ddylen ni ei wneud? Ni allwn ofyn i bobl brynu esgidiau pan na allant fforddio bwyd.

“Dyw hynny ddim yn gynhwysol. Dydyn ni ddim eisiau i chwaraeon fod ar gyfer y bobl sy'n gallu ei fforddio yn unig. Dylai fod ar gyfer pawb. Ni ddylai costau byw effeithio ar hynny.”

Sean Carey yw cyfarwyddwr Clock Cricket, sef camp i chwaraewyr oedrannus neu lai symudol. Mae’n dweud mai argaeledd lleoliadau addas yw’r rhwystr mwyaf yn aml:

“Y prif gŵyn sydd gan bobl yw gallu cyrraedd y lleoedd lle'r ydym yn cynnal y sesiynau - ynghyd â'r gost. Mae'n gwneud ein bywyd yn llawer haws os oes lleoliadau sefydledig o fewn y cymunedau rydyn ni'n mynd iddyn nhw.

“Os gall pobl gyrraedd ar y bws, mae hynny'n helpu - ond mae'r cyfan yn ychwanegu at y gost. Dyna pam rydym yn awyddus i fynd allan i wahanol gymunedau lle gallwn helpu i leihau’r costau hynny i bobl.”

Mwy am y stori hon

Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig : Darllenwch yr adroddiad