Dylai prawf cydraddoldeb rhwng y rhywiau fod yn gymwys i holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r ‘epidemig’ o drais ar sail rhywedd, yn ôl adroddiad gan y Senedd.
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn galw ar bawb yng Nghymru i chwarae rhan mewn newid y diwylliant sy’n caniatáu i’r trais hwnnw barhau.
Mae adroddiad heddiw, Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan, yn nodi cynllun ar gyfer dull iechyd y cyhoedd o ran trais ar sail rhywedd.
Dywed Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor, fod yr adolygiad diwylliant diweddar o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn enghraifft sy'n dangos pam mae angen gweithredu ar frys.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan bartner cyfredol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Bydd un o bob tair menyw yn dioddef cam-drin domestig yn ystod ei hoes. Oherwydd diffyg adrodd, mae’n debygol bod y ffigurau swyddogol yn tanamcangyfrif gwir faint y broblem warthus hon.
“Mae pob un sy’n dioddef yn yr epidemig hwn yn un yn ormod. I roi diwedd arno, rhaid inni i gyd chwarae ein rhan – yn enwedig dynion a bechgyn – drwy fynd i’r afael â’r gwir achosion.
“Mae’r Adolygiad Diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ein hatgoffa’n ddiweddar o’r her ddiwylliannol sydd ei hangen i fynd i’r afael â hyn. Er i’r Adolygiad hwnnw ddod allan yn rhy hwyr i’n hymchwiliad ei ystyried, mae’n dangos pam yr ystyrir bod trais ar sail rhywedd yn epidemig.”
“Mae Llywodraeth Cymru yn ganolog a dylai groesawu ei rôl fel arloeswr ac arweinydd wrth fabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o ran y broblem hon.”
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio dull iechyd y cyhoedd fel mynd i'r afael â ffactorau risg sylfaenol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dod yn ddioddefwr neu'n gyflawnwr trais.
Gan mai anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yw prif achos sylfaenol trais ar sail rhywedd, mae'r Pwyllgor yn galw am asesu holl benderfyniadau polisi a chynigion deddfwriaethol mawr Llywodraeth Cymru yn nhermauau ‘prawf cydraddoldeb rhwng y rhywiau'.
Mae’r adroddiad yn galw ar bawb yng Nghymru i chwarae eu rhan – yn enwedig bechgyn a dynion. Roedd yr ymchwiliad wedi clywed bod unrhyw ddull o atal trais ar sail rhywedd sy'n esgeuluso ymgysylltu â dynion a bechgyn yn annhebygol o lwyddo.
Argymhellodd yr adroddiad hefyd y dylai Llywodraeth Cymru:
- Weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion yn ymwneud â rhywedd, hyrwyddo menywod mewn arweinyddiaeth, a gorfodi hawliau sy’n gwarantu cydraddoldeb a rhyddid rhag gwahaniaethu, aflonyddu a thrais.
- Gofyn i Estyn gynnal adolygiad cenedlaethol o sut mae’r pwnc yn ymwneud â pherthnasoedd iach yn cael ei addysgu mewn ysgolion.
- Helpu busnesau a gweithleoedd i roi polisïau ar waith sy’n cefnogi amgylchedd gwaith diogel a chyfartal, gan gynnwys hyfforddiant ar atal aflonyddu a thrais.
Os yw unrhyw un o’r materion a godwyd yn yr adroddiad yn effeithio arnoch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth gyfrinachol: Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800.