Dylid cryfhau’r Comisiwn Seilwaith newydd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/01/2017

​Dylid ehangu a chryfhau rôl y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NICfW) arfaethedig i Gymru os yw am gyflawni ei botensial, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sefydlu’r NICfW yn ddiweddarach eleni. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y comisiwn yn gyfrifol am lunio cynlluniau hirdymor ar gyfer datblygiadau fel ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru, cyflenwad ynni a darpariaeth o ran y rhyngrwyd, a rhoi cyngor ar y materion hyn.

Ar ôl cymryd tystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau – gan gynnwys cyrff seilwaith yn Awstralia – mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn argymell newidiadau i gryfhau’r corff, ei wneud yn fwy annibynnol ac ehangu ei gylch gorchwyl.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys:

  • Dylid sefydlu’r NICfW ar fyrder, ond gyda rhagdybiaeth y bydd deddfwriaeth yn dilyn i’w wneud yn fwy annibynnol a hybu ei statws;
  • Dylid ehangu’r cylch gorchwyl arfaethedig i gynnwys y cyflenwad o dir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig; a
  • Dylai’r NICfW fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion i wneud y corff yn fwy annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys argymell bod y sefydliad yn cael ei leoli y tu allan i Gaerdydd, mewn lleoliad sy’n cynnig gwerth am arian, ac yn rhannu adeilad gyda chorff cyhoeddus arall.

Argymhelliad arall yw y dylai cadeirydd y comisiwn fod yn destun gwrandawiad cyn penodi gerbron un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet weledigaeth rymus o gorff arbenigol annibynnol a all atal penderfyniadau dadleuol sydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol rhag troi’n faterion gwleidyddol.

“I gyflawni hyn, bydd angen i’r NICfW allu cynnig arbenigedd technegol gwirioneddol, y gallu i gydgysylltu a’r gallu i roi golwg hirdymor ar y ffordd yr ydym yn cynllunio seilwaith yng Nghymru.

“Mae’r her hon yn un sylweddol – ond yn her y mae modd ei chyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn sail ar gyfer sefydlu Comisiwn gwirioneddol annibynnol yn gyflym a fydd – unwaith iddo gael ei gryfhau gan ddeddfwriaeth – yn gallu sicrhau bod Cymru yn datblygu’r seilwaith hanfodol yr ydym oll yn dibynnu arno i fod yn genedl ffyniannus yn yr unfed ganrif ar hugain.”

Pwysleisiodd Mr George bwysigrwydd perthynas â phartneriaid allweddol i sicrhau bod gwaith y comisiwn yn ategu’r hyn a wneir gan sefydliadau sy’n bodoli eisoes.

Ychwanegodd: “Bydd llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar ei allu i ddatblygu’r cysylltiadau hynny gyda chomisiwn seilwaith y DU, gyda Gweinidogion Cymru, gydag awdurdodau rhanbarthol a lleol a hefyd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chyfoeth Naturiol Cymru.”