Dywedodd un o Bwyllgorau’r Senedd: “Mae’r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn hanfodol ar gyfer recriwtio a chadw staff gofal”

Cyhoeddwyd 01/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i’r afael ag anawsterau o ran recriwtio a chadw staff yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu’r gwasanaeth newydd i frwydro yn erbyn yr anawsterau recriwtio a chadw sy’n achosi ‘straen sylweddol’ i’r cartrefi gofal.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod y sefyllfa bresennol yn effeithio ar allu darparwyr i ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd da i’w defnyddwyr a bod mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol i godi safonau. Mae’r Pwyllgor hefyd yn dweud y bydd sefydlu’r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol hefyd yn sicrhau ‘cyfartaledd cyflogau ac amodau’ o fewn y sector.


 

 

 

Mark Isherwood AS,
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

 

 


“Mae angen gwneud mwy i sicrhau cyflogau a thelerau cyfartal rhwng y gwasanaeth iechyd a'r sector gofal cymdeithasol, i sicrhau y gellir hyfforddi a chadw mwy o staff yn y sector gofal cymdeithasol.

“Mae’r systemau ariannu ar gyfer darpariaeth cartrefi gofal yn gymhleth ac yn anodd eu llywio i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ac i bobl sy’n eu defnyddio. Pan fo teuluoedd, staff a chleifion yn cyfeirio at y system fel un ‘gwahaniaethol’ a bod ganddi ‘feddylfryd nhw a ni’, yn amlwg mae angen gwneud rhywbeth.”

 



Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion i’r Llywodraeth ar sut y gall wella’r system ofal yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Galw am adolygiad o gyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr gofal, i sicrhau cydraddoldeb â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â diwydiannau eraill, megis y diwydiant lletygarwch. Heb dâl ac amodau cydradd, bydd y sector yn parhau i wynebu problemau recriwtio a chadw staff.
  • Galw ar grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy’n datblygu’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol i ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth fel rhan o’u gwaith.
  • Annog a chefnogi rôl gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, ond o fewn ffiniau llym cefnogi ansawdd bywyd, megis datblygu diddordebau cyffredin a gweithgareddau. Ni ddylid defnyddio gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau gofal proffesiynol.

 


 

Mwy am y stori hon

Comisiynu Cartrefi Gofal Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn