Enwebu Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 13/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/05/2016

Mae’r Llywydd wedi rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad y cynhelir y Cyfarfod Llawn nesaf am 13.30 ar 18 Mai.
 
Enwebu Prif Weinidog
 
Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi'r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau'r Cynulliad.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhagnodi bod rhaid i'r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr etholiad, h.y. erbyn diwedd 1 Mehefin 2016. Enwebir y Prif Weinidog gan y Cynulliad, gyda'r Llywydd yn cyflwyno'r enwebiad i'w Mawrhydi ar gyfer ei gymeradwyo. Os nad yw'r Cynulliad yn enwebu Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod o'r etholiad, rhaid i etholiad cyffredinol arall gael ei gynnal yng Nghymru.

Mae'r Prif Weinidog blaenorol yn parhau yn y swydd hyd nes y bydd Ei Mawrhydi yn penodi'r Prif Weinidog newydd.

Caiff y Prif Weinidog newydd, gyda chymeradwyaeth Ei Mawrhydi, benodi Gweinidogion Cymru.

Yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 11 Mai enwebwyd dau ymgeisydd; roedd hynny yn golygu galw cofrestr yr Aelodau.

Arweiniodd y broses honno at ganlyniad cyfartal. Ym marn y Llywydd, ni fyddai galw'r gofrestr eto er mwyn ethol Prif Weinidog wedi arwain at ganlyniad gwahanol, ac felly gohiriwyd y cyfarfod.

Yn unol â Rheol Sefydlog 8.3, y busnes cyntaf yn y Cyfarfod Llawn nesaf fydd galw'r gofrestr eto oni bai bod un o'r ymgeiswyr yn nodi ei fod am dynnu ei enwebiad. Os felly, yr ymgeisydd arall gaiff enwebiad y Cynulliad.

Canlyniad yr enwebiad

Yn syth ar ôl i rywun gael ei enwebu ar gyfer ei benodi yn Brif Weinidog, gall y Llywydd wahodd y person hwnnw i draddodi araith.

Bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi ar unwaith y dylai'r Aelod a enwebwyd gan y Cynulliad gael ei benodi'n Brif Weinidog.

Gallwch weld ein hamserlen lawn o fusnes cynnar y Cynulliad yma.