Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn rhybuddio y gallai heriau cyfreithiol ynghylch cwotâu ar gyfer ymgeiswyr darfu ar ganlyniad etholiad nesaf y Senedd.
Peryglu etholiad
Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i osgoi peryglu etholiad Senedd 2026.
Nod y ddeddfwriaeth arfaethedig, Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), yw cynyddu nifer y menywod sy’n sefyll mewn etholiadau drwy gyflwyno cwotâu ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll dros bleidiau gwleidyddol o etholiad y Senedd yn 2026 ymlaen.
Mae mwyafrif o’r Pwyllgor, sydd wedi bod yn clywed tystiolaeth ac yn ystyried y gyfraith arfaethedig ers mis Mawrth, yn argymell y dylai Aelodau gefnogi symud y Bil ymlaen i’r cyfnod nesaf.
Mae holl aelodau’r Pwyllgor yn cytuno bod yn rhaid rhoi’r ansicrwydd ynghylch a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r Bil y tu hwnt i unrhyw amheuaeth er mwyn lleihau unrhyw risg i gyfreithlondeb etholiad y Senedd yn 2026.
Mae’r Pwyllgor yn dweud, er mwyn rhoi’r cwestiwn o a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r gyfraith y tu hwnt i amheuaeth, y dylai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â Llywodraeth nesaf y DU cyn gofyn i’r Senedd basio’r Bil, ac, os bydd y Senedd yn pasio’r gyfraith, y dylai Llywodraeth Cymru gyfeirio’r Bil at Oruchaf Lys y DU i’w ystyried cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei basio.
Annog menywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
At ei gilydd, mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud 25 o argymhellion i gryfhau a gwella’r Bil, i roi’r cwestiwn ynghylch gallu’r Senedd i basio’r gyfraith y tu hwnt i amheuaeth, i annog menywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ac i fynd i’r afael â rhwystrau a allai atal menywod rhag cyflwyno eu hunain i’r broses ddethol neu i sefyll mewn etholiad.
Dywedodd David Rees AS, Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio: “Fel Pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen i’r Senedd adlewyrchu’n well y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Rydym yn falch o fod yn rhan o senedd sydd ag un o’r lefelau uchaf yn y byd o fenywod fel aelodau etholedig, ond mae mwy i’w wneud o hyd.
“Wrth gydnabod bod y Bil yn rhoi mesurau ar waith a allai gyfrannu at gydraddoldeb o ran cynrychiolaeth yn y Senedd, rydym eisiau gweld newidiadau i gryfhau a gwella’r Bil.”
Mynegodd Mr Rees bryderon hefyd am y posibilrwydd o darfu ar ganlyniad etholiad Senedd 2026 os nad yw’r cwestiwn o ran a yw’r Bil o fewn pwerau’r Senedd yn cael ei roi y tu hwnt i amheuaeth.
“Nid rôl y Pwyllgor yw penderfynu a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r Bil hwn ond rydym yn pryderu am y dystiolaeth rydym wedi’i chlywed y gallai heriau cyfreithiol darfu ar etholiad 2026, ac felly rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i reoli a lliniaru’r risg hon.”
Atal arferion llwgr
Mae’r gofyniad yn y Bil i ymgeiswyr wneud datganiad ynghylch a ydynt yn fenyw neu beidio, fel rhan o’r broses o gael eu henwebu gan blaid wleidyddol, wedi cael cryn dipyn o sylw.
Mae mwyafrif o’r Pwyllgor yn cytuno bod gofyn y cwestiwn hwn i ymgeiswyr yn ddull cymesur o orfodi’r rheolau cwota. Fodd bynnag, i warchod rhag achosion o gamddefnyddio’r broses, mae’r Pwyllgor yn dweud bod yn rhaid i ddatganiad ffug gael ei drin fel trosedd arfer llwgr sy'n gymwys ar gyfer unrhyw wybodaeth ffug a gyflwynir ar ffurflen enwebu ymgeisydd.
Wrth wneud sylw ar yr argymhelliad hwn, ychwanegodd Mr Rees: “Rydyn ni wedi clywed pryderon ynghylch a allai’r gofyniad i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol ddatgan a ydyn nhw’n fenyw neu beidio fod yn agored i gael ei gamddefnyddio.
“Er mwyn lleddfu’r pryderon hyn, rydym yn galw ar y llywodraeth i gynnwys y datganiad hwn o fewn y drosedd arfer llwgr sy’n gymwys ar gyfer gwybodaeth ffug arall ar ffurflenni enwebu.”
Disgwylir i’r Senedd drafod a phleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil ddydd Mawrth 18 Mehefin.
Mwy am y stori hon
Gwybodaeth am y Bil: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Adroddiad Cyfnod 1. Darllenwch yr adroddiad