Llyfrgell

Llyfrgell

Galw am ‘arian ychwanegol ar unwaith’ i atal cau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden

Cyhoeddwyd 20/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Cymru o dan fygythiad cael eu cau os nad ydynt yn derbyn arian ychwanegol ar unwaith, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn canfod bod llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn wynebu pwysau ariannol enfawr – o ganlyniad i chwyddiant, biliau ynni cynyddol a thoriadau hanesyddol yn y gyllideb – a bod angen cyllid ar unwaith, yn ogystal â chyllid hirdymor, a hynny ar fyrder. 

Canfu’r adroddiad fod gwasanaethau llyfrgelloedd a hamdden yn darparu llawer iawn o fudd i iechyd a llesiant addysgol pobl, ond bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddim yn gwerthfawrogi hynny. 

Llyfrgelloedd yn arwain y ffordd 

Yn ogystal â chaniatáu i bobl fenthyg llyfrau, mae llyfrgelloedd hefyd yn lleoedd lle gall pobl gael mynediad at gyfrifiadur, ennill sgiliau gwaith drwy wella eu CV, ac ymuno â dosbarthiadau cymunedol. 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod ‘gwerth cymdeithasol’ llyfrgelloedd am ddarparu’r gwasanaethau hyn yn golygu, am bob £1 sy’n cael ei gwario, eu bod yn gallu cyflawni £8.75 o werth o ran atal llawer o’r problemau sy’n dod â chost i gymdeithas – a’r pwrs cyhoeddus – mewn ffyrdd eraill. 

Mae’r Pwyllgor yn argymell Tasglu Llyfrgelloedd fel ffordd o sicrhau bod budd llyfrgelloedd yn dod yn fwy hysbys, ac y gallai llyfrgelloedd eu hunain ddysgu oddi wrth ei gilydd am y ffordd orau o redeg gwasanaethau. Ar hyn o bryd, nid oes corff cenedlaethol i arwain datblygiad llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. 

Nofio neu foddi? 

Gan nad oedd canolfannau hamdden yn rhan o Gynllun Gostyngiad Biliau Ynni Llywodraeth y DU, maent wedi bod ar drugaredd costau ynni cynyddol, gyda’r gost o wresogi pyllau nofio yn straen mawr ar gyllid. Dywedodd Swim Wales i’r Pwyllgor, cyn y pandemig, fod tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn defnyddio pyllau nofio bob wythnos.   

O ganlyniad i’r pwysau ariannol sy’n wynebu canolfannau hamdden, mae’r Pwyllgor yn galw ar Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o arian. 

Dylai hyn helpu canolfannau hamdden gyda’u biliau ynni cynyddol a byddai’r arian yn dod o ganlyniad i £63m o gyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU a glustnodwyd i’w wario ar byllau nofio yn Lloegr. 

Clywodd y Pwyllgor mai dim ond 50 y cant o’r 1,600 a mwy o ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn gwersi nofio ysgol, gan nad yw’n hyn yn orfodol.  

Dywedodd Nofio Cymru wrth y Pwyllgor mai cost gwers nofio ar gyfartaledd cyn Covid oedd £6.50, ond mae hyn wedi codi’n aruthrol i £12.50 ers COVID; mae hyn yn effeithio’n arbennig o galed ar blant o deuluoedd incwm is a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn gallu cynnig gwersi nofio am ddim i ddisgyblion fel nad yw plant ar eu colled. 

Y llwybr i sero net 

Mae'r adroddiad hefyd yn canfod nad yw'r ymdrechion presennol i wneud canolfannau hamdden a llyfrgelloedd yn fwy effeithlon o ran ynni yn mynd yn ddigon pell. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu peth cyllid i uwchraddio adeiladau a’u gwneud yn wyrddach, clywodd y Pwyllgor nad yw hyn yn ddigonol os ydynt am ddatgarboneiddio’u hadeiladau erbyn 2030.  

Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hirdymor gyda chyllid sylweddol, yn ogystal â datrysiadau tymor byr, i helpu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i ddatgarboneiddio. 

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, “Mae’r sefyllfa’n sy’n wynebu llawer o’n gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn peri gofid. Mae toriadau yn y gyllideb yn achosi problemau sylweddol, a rhaid datrys hwn cyn fod pethau’n mynd yn waeth. 

“Ond allwn ni ddim esgus bod hon yn broblem y gallwn ei datrys yn gyflym. Bydd angen meddwl hirdymor – a chyllid hirdymor – os ydym am gadw’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn i fynd. 

“Rydyn ni’n gwybod bod llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn cynnig gwerth cymdeithasol enfawr i’n cymunedau. O ddosbarthiadau cyfrifiaduron i wersi chwaraeon amrywiol, mae'r lleoedd hyn mewn gwirionedd yn arbed arian yn y tymor hir drwy ein cadw ni'n hapusach ac yn iachach. Mae’n hen bryd i’r cyllid y maent yn ei dderbyn gyfateb i’w cyfraniad i gymdeithas.”