Galw am Gynrychiolaeth deg I’r Cynulliad wrth ddathlu 20 mlynedd

Cyhoeddwyd 07/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/04/2023   |   Amser darllen munudau

Heddiw, wrth ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones  AC,  yn galw am gynyddu capasiti'r Cynulliad er mwyn i bobl Cymru gael "cynrychiolaeth deg a chymesur yn eu Senedd genedlaethol."

Daw galwad y Llywydd wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi 20 mlynedd ers etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999. Bydd y Llywydd a'r Prif Weinidog yn gwneud anerchiadau arbennig yn y Siambr yn ystod y sesiwn lawn heddiw (Dydd Mawrth, Mai 7) yng nghwmni Aelodau a chyn Aelodau Cynulliad.

Yn ei haraith, bydd y Llywydd yn cydnabod llwyddiannau'r Cynulliad gan gynnwys ei statws fel Senedd gwbl-ddwyieithog a chynhwysol o'r cychwyn cyntaf. Yn 2003, hi oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd rhywedd a heddiw, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r ddeddfwrfa Brydeinig gyda'r gyfran uchaf o fenywod yn aelodau etholedig.

Bydd y Llywydd hefyd yn pwysleisio fod angen adeiladu ar yr holl ddatblygiadau hyn a chadw golygon yn gadarn ar y dyfodol.

"Darn wrth ddarn, mae'r gwaith o adeiladu Senedd, o adeiladu cenedl, wedi mynd rhagddo ac erbyn heddiw rydym yn sefyll ar seiliau cadarn penseiri cynnar datganoli. Ond gadewch i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau. Mae cymaint eto i'w wneud.

Ac un ffaith sy'n ddigyfnewid, er cymaint y newid yn ein cyfrifoldebau. Ar Ddiwrnod cyntaf Un, mi oedden yn 60 Aelod Cynulliad a heddiw, 7301 o ddiwrnodau yn ddiweddarach, rydym dal ond yn 60 Aelod.

Os ydym am wireddu unrhyw uchelgais i gynyddu pwerau'r Senedd hon, neu i chwistrellu mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb mewn i ddefnydd o'r pwerau sydd eisoes gennym, mae angen cynyddu ein capasiti. Does dim mwy o oriau yn y dydd, does dim posib bod mewn dau le, neu mewn dau Bwyllgor, ar yr un pryd - ac felly i gynrychioli pobol Cymru ar ein gorau, yna mae angen mwy o Aelodau."

Fe fydd y Llywydd hefyd yn pwysleisio'r angen i gynnwys pobl Cymru mewn trafodaeth ar Gynulliad y dyfodol ac, wrth wneud hynny, bydd yn cyhoeddi manylion pellach am raglen 20 mlwyddiant y Cynulliad dros y misoedd nesaf.

"Dyna pam y byddwn yn cynnull Cynulliad Y Bobol, Citizens Assembly, yr haf yma. Mi fyddwn yn rhoi'r cyfle a'r hawl i gynrychiolaeth o bobol Cymru gyflwyno eu dyheadau am yr 20 mlynedd nesaf yng Nghymru. Ffynhonnell syniadau gwreiddiol i siapio ein gwaith a'n blaenoriaethau i'r dyfodol.

Ac yna ym mis Medi, mi fyddwn yn cynnal ein Gŵyl Democratiaeth gyntaf erioed. Gŵyl a fydd yn wledd o drafod materion o bwys i bobol Cymru - o chwaraeon i dechnoleg i'r celfyddydau, gyda'r bwriad o ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r Senedd yn y Bae."

Wedi'r anerchiadau a fydd yn cloi sesiwn lawn y diwrnod yn y Siambr, bydd y Llywydd yn arwain Aelodau, cyn-Aelodau a gwestai i'r Neuadd ar gyfer derbyniad byr i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli. Fel un gafodd ei gyfle gwaith cyntaf yn 1999 yng nghanol bwrlwm datganoli, fe fydd y cyflwynydd radio a theledu Huw Stephens yn cyflwyno rhaglen fer o berfformiadau llenyddol a cherddorol i ddathlu talent diwylliannol Cymru. Yn eu plith bydd cerdd arbennig wedi ei ysgrifennu i nodi 20 mlynedd o ddatganoli gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.

Ddoe, agorodd y Senedd agor ei ddrysau a chroesawu pobl o bob oed i ddathliad cyhoeddus yn Jambori'r Senedd. Daeth dros 1350 o bobl drwy'r drysau ar gyfer diwrnod o weithgareddau. Dyma ddechrau rhaglen 5 mis o ddigwyddiadau a gweithgareddau dros Gymru i nodi 20 mlynedd o ddatganoli a fydd yn dod i ben fis Medi gyda gŵyl ddemocratiaeth nôl ym Mae Caerdydd.