Gwleidyddion y dyfodol yn dangos sut byddent yn arwain y wlad mewn Ffug Etholiad

Cyhoeddwyd 26/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mi fydd pum grŵp o bleidleiswyr ifanc, o wahanol rannau o Gymru, yn cynnal dadl angerddol am bynciau sydd o bwys iddyn nhw, wrth gystadlu mewn Ffug Etholiad.

Mae'r grwpiau o bobl ifanc wedi derbyn yr her o ffurfio pum plaid wleidyddol ffug a chyflwyno polisïau i ddangos sut y byddent yn newid Cymru er gwell, yn y digwyddiad Dewch i ddadlau : Ffug Etholiad i Bobl Ifanc sy’n cael ei gynnal gan Senedd Cymru nos Wener yma, 26 Chwefror, 17.00.

Bydd pob plaid yn cyflwyno eu maniffesto gan obeithio perswadio’r gynulleidfa i bleidleisio dros eu plaid nhw. Y pleidiau yw:

  • Cymru Cydraddol - Lola Thair, Isabel Williams, Bethan Nicholas Thomas, Bonnie Connor, Stella Orrin. Aelodau o Fforwm Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot

“Mae Cymru Cydraddol yn angerddol am gael llwyfan i leisio eu barn, mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a gwneud gwahaniaeth. Rydym yn angerddol am addysg, iechyd meddwl, prydau ysgol am ddim a sicrhau bod cynhyrchion misglwyf am ddim ar gael.”

Pynciau pwysig: Addysg, Iechyd Meddwl, Prydau ysgol am ddim, Cynhyrchion misglwyf am ddim

 

  • Dreigiau Ardudwy - Daniella Paganuzzi, Chloe Lois Roberts. Amelia Bailey, Connie Fflur Rose Foskett-Barnard, David Bisseker, Olivia Amanda Mead, Jessica Jane Hughes. Aelodau o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd.

“Mae Dreigiau Ardudwy yn angerddol am iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc yn ystod y pandemig presennol ac yn awyddus i’w gael ar gwricwlwm yr ysgol. Rydym yn awyddus i godi mwy o ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac amgylcheddol.”

Pynciau pwysig: Achub mynydd, Iechyd Meddwl, Clybiau Ieuenctid

 

  • Creative Cymru Creadigol - Rebecca Joliffe, Nick Francis, Erin Gruffydd, Emily Farley, Erin Williams o Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

“Rydym yn angerddol ar lawer o faterion fel cyllid y celfyddydau, yr amgylchedd, yr economi a hygyrchedd a chydraddoldeb i bawb (BAME, LGBTQ +, Pobl ag Anableddau). Mae Creative Cymru Creadigol yn awyddus i'w gwneud hi'n orfodol i adeiladau fod yn hygyrch i bobl ag anableddau a chael mwy o gynhwysiant yn y system addysg.”

Pynciau pwysig: Cyllid y celfyddydau, yr Amgylchedd, yr Economi, Cydraddoldeb i bawb

 

  • Uwch! - Joel Jones, Lucy Nicholls o Ysgol Gyfun Treorci

“Rydyn ni'n angerddol bod gan bawb lais, waeth beth fo'u cefndir, incwm neu sefyllfa. Mae Uwch! yn awyddus i fynd i’r afael â materion a phenderfyniadau ar newid yn yr hinsawdd, addysg a brwydrau economaidd mewn cymdeithas, ac eisiau cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gan ei bod yn hynod bwysig. ”

Pynciau pwysig: Newid hinsawdd, Addysg, Brwydrau Economaidd

 

  • MTBWYF - Eve Davies, Cari Hope Davies, Corey Shemwell, Dylan Oakley, Lacy Phillips o Fforwm Ieuenctid Ehangach Bwrdeistref Merthyr Tudful

“Rydym yn angerddol am fod yn rhan o genhedlaeth Z. Mae MTBWYF eisiau newid y byd ymhellach er daioni a mynd i’r afael â chamdybiaethau am Bobl Ifanc h.y. nad ydym yn gwneud unrhyw beth cynhyrchiol. Hoffem adeiladu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc a sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn angerddol am hawliau plant a'u bod yn hygyrch, ac i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yng Nghymru."

Pynciau pwysig: Hawliau plant, Cydraddoldeb, Addysg, Iechyd Meddwl

 

I wylio gwleidyddion y dyfodol wrth eu gwaith, ac i fwrw'ch pleidlais, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar-lein a darganfod mwy amdano ar y wefan

Mae’r digwyddiad Dewch i ddadlau : Ffug Etholiad i Bobl Ifanc yn cael ei gynnal gan Senedd Cymru fel rhan o Wythnos Pleidlais 16 - cyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau i annog pobl ifanc 16 a 17 oed sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio yn Etholiad Senedd 2021 ym mis Mai. Yn cadeirio mae Gohebydd Gwleidyddol y BBC, Teleri Glyn Jones, a fydd yn holi ac yn stilio’r pleidiau ar eu polisïau.

Bydd y blaid sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael cyfle i gyhoeddi eu syniadau mewn erthygl ar-lein ar www.senedd.cymru

Defnyddio dy Lais yn Etholiad Senedd 2021 

Os wyt ti dros 16 oed ac yn galw Cymru yn gartref, defnyddia dy lais ar 6 Mai 2021 drwy bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd. Mae cofrestru yn cau ar 19 Ebrill. Mae gwybodaeth am gofrestru, sut i bleidleisio a beth mae'n ei olygu ar gael ar www.senedd.cymru/etholiad Hefyd ar gael ar wefan etholiad y Senedd mae ystod o wybodaeth ac adnoddau ar-lein am ddim i unigolion, grwpiau ac ysgolion sydd eisiau dysgu mwy am yr etholiadau a pham ei bod yn bwysig cymryd rhan.