Leighton Andrews yn arwain tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol

Cyhoeddwyd 04/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

 
Bydd Leighton Andrews yn cadeirio tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol y Llywydd.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, nododd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei bwriad i wahodd arbenigwyr o faes cyfathrebu digidol i ffurfio tasglu i argymell ffyrdd y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am waith y ddeddfwrfa mewn modd deniadol a hygyrch.

Mae Mr Andrews, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Ymarfer mewn Arwain ac Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi cytuno i gadeirio'r grŵp.

Gofynnodd Mr Andrews: "Sut allwn ni gyfleu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol i gynulleidfa ehangach yng Nghymru?"

"Mae pobl yn dewis cael eu newyddion drwy ffyrdd llawer mwy amrywiol. Dim ond drwy Facebook y mae rhai pobl yn cael eu newyddion erbyn hyn. Mae nifer gynyddol o bobl yn dewis byw eu bywydau drwy gymunedau digidol ac ar-lein, gan anwybyddu'r cyfryngau a'r sianeli newyddion traddodiadol.

"Mae'r cyfnod pan allai sefydliadau gwleidyddol ddibynnu ar y cyfryngau print a darlledu prif ffrwd i sicrhau bod eu negeseuon yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl yn wynebu her. Mae'r cyfryngau prif ffrwd yn parhau i fod yn nodwedd bwysig o'n democratiaeth, ond bydd angen cynyddol i gyrff fel y Cynulliad Cenedlaethol becynnu a gwthio eu cynnwys yn uniongyrchol i'r llwyfannau y mae cynulleidfaoedd yn eu defnyddio.

"Bydd sut mae cyrraedd y cynulleidfaoedd hynny a pha fath o gynnwys y maent am ei weld yn gwestiynau sylfaenol y bydd y tasglu hwn yn ceisio eu hateb yn ystod y misoedd nesaf.

"Mae'n her y mae'n rhaid i'r Cynulliad ei hwynebu os yw am barhau i fod yn sefydliad agored a thryloyw sy'n mynd allan i ymgysylltu â phobl Cymru."

 
Aelodau eraill tasglu'r Llywydd yw:

  • Cath Allen – Aelod o Fwrdd BBC Cymru a chyn newyddiadurwr ar y BBC
  • James Downes – Pennaeth Cynnyrch yn Nhŷ'r Cwmnïau
  • Ifan Morgan Jones, Darlithydd mewn Newyddiaduraeth, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor
  • Valerie Livingston - Cyfarwyddwr y cwmni gwybodaeth wleidyddol, newsdirect wales
  • Hannah Mathias – arbenigwr ar dechnoleg ac adnoddau dysgu
  • Emma Meese – Canolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol
  • Gareth Rees – Datblygwr Meddalwedd yn mySociety
  • Iain Tweedale – Pennaeth Ar-lein a Dysgu BBC Cymru
  • Andy Williamson – sefydlydd cwmni ymchwil ac ymgynghori Future Digital

 
Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Rwy'n falch bod Leighton wedi cytuno i arwain y darn pwysig hwn o waith.

"Mae ganddo brofiad helaeth, nid yn unig fel cyn-Aelod o'r Cynulliad a chyn-Weinidog, ond hefyd o ran gwaith cyfathrebu ynghylch gwleidyddiaeth a llywodraethiant a thrwy ei rôl flaenorol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rydym yn gweld chwyldro yn nisgwyliadau pobl o ran y gwasanaethau a ddarperir gan ffynonellau newyddion a gwybodaeth.

"Ni allwn anwybyddu'r pwysau y mae'r cyfryngau confensiynol yng Nghymru yn eu hwynebu a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran rhoi gwybod i bobl Cymru am waith y Cynulliad Cenedlaethol. Mae angen ailwampio ein gwefan Senedd.tv a'n llwyfannau cyfathrebu eraill. Gallwn droi'r diffyg sylw yn y cyfryngau yn gyfle i ddylunio ein dulliau ein hunain o gyfathrebu a rhyngweithio â phobl Cymru, gan ddefnyddio pob math o dechnoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol. Gallwn ddilyn arfer gorau Seneddau a sefydliadau eraill a chael cymorth gan yr unigolion mwyaf arloesol i'n helpu i gynllunio ar gyfer y gwaith hwn. 

"Nid yw'r her hon yn unigryw i'r Cynulliad – mae'n her barhaus i'r trydydd sector, y sector preifat a'r sector cyhoeddus hefyd. Er mwyn sicrhau bod gan ein gwaith hunaniaeth a llais cryf, mae'n rhaid i ni fanteisio ar arbenigedd a phrofiad sefydliadau ac unigolion arloesol yn y maes hwn."

"Rwy'n edrych ymlaen at glywed rhai argymhellion cyffrous gan Leighton a'i gydweithwyr ar y tasglu."

Disgwylir i'r tasglu gyhoeddi ei ganfyddiadau erbyn y Pasg yn 2017.

 

Bywgraffiad Leighton Andrews:

  • Swyddog Seneddol Age Concern, 1982–1984
  • Cyfarwyddwr Ymgyrch y DU, Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Lloches i'r Digartref, 1984–1987
  • Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus, 1988–1993 a 1997–2001
  • Pennaeth Materion Cyhoeddus y BBC o 1993 i 1996. Wedi'i leoli yn Llundain, yn gyfrifol am gysylltiadau'r BBC â Senedd y DU ac â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.
  • Darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd cyn iddo gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

 
Gyrfa wleidyddol:

  • 2003 - 2016 Aelod Cynulliad dros y Rhondda
  • 2009 - 2013 Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
  • 2014 - 2016 Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

 
Bywgraffiadau aelodau'r tasglu:

 
Cath Allen
Mae gan Cath 27 mlynedd o brofiad mewn sawl rôl yn y BBC ac mae'n cyn-Aelod o Fwrdd BBC Cymru Wales ac yn gyn-Reolwr Olygydd ar uned wleidyddol BBC Cymru. Mae hi bellach yn rhedeg Cath Allen Associates.
 
James Downes
Mae James yn Bennaeth Cynnyrch yn Nhŷ'r Cwmnïau. Chwaraeodd rôl bwysig yn y gwaith o bennu strategaeth ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau digidol, eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu a'u gwella'n barhaus, dros 18 mlynedd. Mae James hefyd wedi datblygu prosiectau digidol trawsnewidiol ar gyfer llywodraeth ganolog, elusennau, y sector cyllid, y sector aelodaeth, y sector treftadaeth, y sector addysg a'r sector modurol.
 
Ifan Morgan Jones
Ymunodd Ifan ag Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym mis Medi 2012. Cyn hynny, roedd Ifan yn ohebydd ac yna'n ddirprwy olygydd i'r cylchgrawn Golwg, cyn iddo dod yn olygydd ar wefan newyddion Golwg 360. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i effaith technoleg cyfathrebu ar yr iaith Gymraeg, gyda sylw arbennig ar y wasg gyfnodol yn y 19eg ganrif a chwyldro digidol y dwthwn hwn. 
 
Valerie Livingston
Gweithiwr proffesiynol ym maes materion cyhoeddus a pherchennog busnes bach yw Valerie; mae ganddi arbenigedd helaeth yn y cyfryngau. Sefydlodd ei chwmni ymchwil gwleidyddol ei hunan yn 2011. Mae'r cwmni, newsdirect wales, yn gohebu ar ddatblygiadau yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mae'n darparu sesiynau briffio polisi i ystod eang o gleientiaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Cyn lansio'r cwmni, roedd Valerie yn uwch-swyddog y wasg ar gyfer yr SNP yn San Steffan. Mae hi hefyd wedi treulio amser yn gweithio yn Senedd yr Alban a Senedd Ewrop, ac mae wedi gweithio ar sawl ymgyrch etholiadol. Yn fwy diweddar, mae wedi ymddangos yn rheolaidd fel sylwebydd gwleidyddol ar y BBC, ITV a Channel 4. 
 
Hannah Mathias
Arbenigwr Technoleg Dysgu ac Adnoddau yw Hannah, a hi yw Rheolwr e-Ddysgu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n adeiladu a gweithredu systemau Moodle a SharePoint 2010. Ei harbenigeddau yw Technolegau dysgu; eAdnoddau; cyfryngau cymdeithasol; technolegau symudol; golygu fideo; golygu sain; HTML; pensaernïaeth SharePoint; gweinyddu a dylunio Moodle, a Web 2.0.
 
Emma Meese
Mae Emma Meese yn rheoli Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd (@C4CJ), sy'n gyfuniad unigryw o ymchwil ac ymarfer i ddatblygu rhwydwaith cryf o newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol yng Nghymru. Mae hi hefyd yn cynnal cyfres o gyrsiau byr yng Nghaerdydd, gan roi mynediad i bawb at hyfforddiant o'r safon uchaf yn y cyfryngau digidol a chymdeithasol. Mae Emma hefyd yn siarad mewn nifer o gynadleddau a digwyddiadau, gan gynnwys Cynhadledd Cyfryngau Cymdeithasol Cymru.

Gareth Rees
Mae Gareth yn natblygwr Meddalwedd yn MySociety. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar Alaveteli - sef llwyfan ffynhonnell agored ar gyfer gwneud ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i gyrff cyhoeddus. Mae wedi gweithio ar raglenni ar gyfer Box UK, World Vision, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Cyngres Undebau Llafur Cymru, a Chymdeithas Ffabiaidd Havering. Sefydlodd cardiffrb, sef cyfarfod misol i raglenwyr Ruby yng Nghaerdydd. Creodd Cardiff Collective fel lle i entrepreneuriaid yng Nghaerdydd greu cysylltiadau a rhannu gwybodaeth. Mae Gareth yn gweithio gyda Sam Knight i gynyddu mynediad at wleidyddiaeth yng Nghymru drwy Your Senedd.

 
Iain Tweedale
Entrepreneur digidol yw Iain, ac mae wedi gweithio yn y BBC fel Pennaeth Ar-lein a Dysgu yng Nghymru. Yn ogystal, roedd ganddo rolau rhyngwladol mewn swyddi uwch gydag IBM a Sonera. Yn BBC Cymru Wales, fe oedd yn gyfrifol am fersiwn Cymru o wefan bbc.co.uk ar draws pob llwyfan cysylltiedig. Hefyd, ei dîm ef a gynhyrchodd gynnwys ar gyfer brandiau fel Doctor Who, Sherlock a Crimewatch. Fel Pennaeth Dysgu BBC Cymru Wales, roedd Iain hefyd yn gyfrifol am gynnwys sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm, fel BBC Bitesize, ac am ddatblygu'r archif at ddibenion addysgiadol.
 
Andy Williamson
Mae Dr Andy Williamson yn gweithio ledled y byd i gefnogi arloesi democrataidd a chyfranogiad dinesig effeithiol. Mae'n gweithio gydag ystod eang o gyrff cyhoeddus, megis y Cenhedloedd Unedig, y Comisiwn Ewropeaidd a seneddau'r DU, Chile, Moldofa a Serbia. Andy yw awdur 'World e-Parliament Report 2016' a chanllawiau cyfryngau cymdeithasol yr Undeb Rhyngseneddol ar gyfer seneddau ac mae'n aelod o Grŵp Llywio Partneriaeth Llywodraeth Agored y DU. Andy yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Democratise ac mae'n llywodraethwr gyda The Democratic Society.
 
I wneud cais am gyfweliad, ffoniwch swyddfa'r wasg ar 0300 200 6252.

I gael rhagor o fanylion am rôl y Llywydd, cliciwch yma.

I gael rhagor o fanylion am strategaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad, cliciwch yma.