Senedd wedi ei oleuo'n borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Senedd wedi ei oleuo'n borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Lle i Ni: Menywod yn meddiannu’r Senedd

Cyhoeddwyd 21/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2023   |   Amser darllen munudau

Menywod fydd yn hawlio llawr y Senedd y penwythnos hwn ar gyfer digwyddiad sy’n torri tir newydd gyda’r nod o ysbrydoli mwy o fenywod i fynd i fyd gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

Mae Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 21 Hydref, a’i ddiben yw dod â menywod ynghyd i rannu syniadau a chael eu hysbrydoli.

Mewn amserlen orlawn o sgyrsiau, trafodaethau a gweithdai ysbrydoledig, bydd Aelodau o’r Senedd ac arweinwyr eraill o fyd gwleidyddiaeth a rhai mewn swyddi cyhoeddus, yn rhannu eu profiadau ac yn annog trafodaeth ar sicrhau cynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol.

Trefnir Lle i Ni gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) ac Elect Her mewn partneriaeth â Senedd Cymru, Llywodraeth Cymru a llu o sefydliadau eraill. Y nod yw ysgogi trafodaeth am gynrychiolaeth gyfartal ac ysbrydoli mwy o fenywod i ddod yn arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus.

Meddai Llywydd y Senedd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, “Ugain mlynedd ers pan ddaeth y Senedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol ymhlith ei haelodau, mae cymaint o waith i’w wneud o hyd.

“Mae’r digwyddiad Lle i Ni yn cynrychioli gweledigaeth o Gymru lle mae nid yn unig mwy o’n harweinwyr a’n deddfwyr yn fenywod, ond yn arbennig menywod â nodweddion gwarchodedig, boed yn fenywod anabl, menywod o gefndir ethnig lleiafrifol, neu fenywod LHDTC+.

“Diolch i WEN Cymru ac Elect Her am weithio gyda’r Senedd i drefnu diwrnod llawn syniadau mawr, sgyrsiau ysbrydoledig, a chyngor ymarferol gwerthfawr ar sut i gymryd eich cam nesaf tuag at sefyll mewn etholiad.”

Meddai Joyce Watson AS, Comisiynydd y Senedd dros Gydraddoldeb a Chadeirydd Cawcws Menywod y Senedd; “Rwyf mor falch o gefnogi’r digwyddiad arbennig hwn â’i nod o annog menywod o bob cefndir, o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

“Yr un yw uchelgais Cawcws Menywod y Senedd, sef creu newid trwy ddarparu gofod i fenywod ddod ynghyd ac i rannu syniadau. I’r rhai ohonom sydd eisoes wedi’n hethol neu sydd mewn swyddi dylanwadol, mae hefyd yn ein hatgoffa i ddod â menywod eraill gyda ni ar y daith ac i wneud y llefydd hyn yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn groesawgar ar yr un pryd. Edrychaf ymlaen at ddiwrnod o drafodaethau heriol yng nghwmni siaradwyr ysbrydoledig.”

Arweinwyr Ysbrydoledig

Yn y sesiwn agoriadol, a fydd yn cael ei ffrydion fyw ar senedd.tv, bydd menywod ysbrydoledig sydd mewn swyddi etholedig neu swyddi cyhoeddus yn rhannu hanes eu taith i fyd gwleidyddiaeth.

Byddwn yn clywed areithiau gan:

  • Weinidog Llywodraeth Cymru Jane Hutt AS,
  • y Cynghorydd ac ymgyrchydd anabledd Sara Pickard,
  • a Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol lleiafrif ethnig cyntaf TUC Cymru.

I ddilyn, bydd trafodaeth a chyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau i:

  • Weinidog Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn AS,
  • Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed, Fay Jones AS,
  • Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Dde Orllewin Cymru,
  • Cynghorydd ac Arglwydd Faer Caerdydd, Bablin Molik,
  • a chyn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Ffion Griffith.

Hannah Stevens o Elect Her, sy’n cadeirio’r drafodaeth, “Mae Lle i Ni yn ddathliad o bŵer menywod mewn gwleidyddiaeth, gan ddwyn ysbrydoliaeth o’u cyflawniadau i rymuso eraill i wneud eu marc.

“Mae’r sesiwn agoriadol yn y Siambr yn gosod y safon ar gyfer diwrnod creadigol o gymuno a thrafod. Ein huchelgeisiau yw meithrin cymuned amrywiol o fenywod Cymreig er mwyn eu grymuso a’u cefnogi i sefyll am swydd wleidyddol a chynrychioli eu cymunedau, beth bynnag yw eu daliadau wleidyddol.”

Mae Elect Her yn sefydliad amlbleidiol sy’n gweithio i gymell, cefnogi a gymruso menywod yn eu holl amrywiaeth i sefyll am swydd wleidyddol. Mae’n gweithio ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac yn croesawu menywod o bob cefndir a chred, gan gynrychioli pob plaid.

Mae WEN Cymru yn sefydliad i gefnogi menywod a merched a rhoi terfyn ar wahaniaethu ar sail rhyw. Ei weledigaeth yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhyw, lle mae gan bob menyw, dyn a pherson anneuaidd awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.

Dywedodd Cyfarwyddwr WEN Cymru, Victoria Vasey: “Mae Lle i Ni yn gyfle amhrisiadwy i fenywod ledled Cymru gysylltu ar gyfer diwrnod o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau i hybu’r achos dros arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal yn ein sefydliadau gwleidyddol. Bydd y diwrnod bythgofiadwy hwn yn rhoi ysbrydoliaeth, rhwydweithiau ac offer newydd i ystod amrywiol o fenywod o bob rhan o Gymru i symud ymlaen mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus, lle bynnag y bônt ar eu taith wleidyddol.

“Er mwyn i’n gwleidyddiaeth fod yn gynrychioliadol, mae angen mwy o fenywod mewn swyddi sy’n llywio penderfyniadau – yn enwedig y rhai o’r cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf gan gynnwys menywod o liw, menywod anabl, a menywod LHDTC+. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i wireddu hyn, ond wrth i’r cynlluniau symud ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd, mae’r diwrnod hwn yn ddatganiad cryf fod hwn yn Le i Ni.”

Gweithdai i rymuso

Drwy gydol y dydd, bydd pob gofod sydd ar gael yn y Senedd, ym Mae Caerdydd, yn llawn gweithgaredd gyda gweithdai rhyngweithiol ar bynciau amrywiol fel sut i sicrhau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant i drafodaethau ar sut i fynd ati i ymgyrchu, jyglo bywyd teuluol a sut i gymryd rhan. Mae cyfleoedd i bobl ofyn am gyngor ac archwilio'r camau ar gyfer cael eu hethol a pharatoi ar gyfer rolau mewn swyddi cyhoeddus.

Ymhlith y siaradwyr mae’r ymgyrchydd hawliau menywod Helen Pankhurst, Osha Daley o’r grŵp ymgyrchu Pregnant Then Screwed a Davinia Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.