“Mae aflonyddu rhywiol mewn ysgolion mor gyffredin, mae wedi'i normaleiddio” meddai un o bwyllgorau’r Senedd

Cyhoeddwyd 13/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin, mae’n cael ei ystyried yn ymddygiad arferol, ac mae’n effeithio ar blant  mor ifanc â 9 oed.

Dangosodd ffigurau brawychus, blaenorol Estyn fod 61% o ddisgyblion benywaidd a 29% o ddisgyblion gwrywaidd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol. 

Mae adroddiad y Senedd yn dweud bod y gwir sefyllfa’n debygol o fod gryn dipyn yn waeth nag y mae’r ffigurau hynny’n ei awgrymu.

Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd dystiolaeth bod aflonyddu ymhlith disgyblion mor gyffredin, mae’n aml yn cael ei fethu neu’n cael ei ystyried yn normal gan ysgolion.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ymgyrch genedlaethol i dargedu nid yn unig dysgwyr, ond eu teuluoedd a staff ysgolion hefyd, i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad yr ystyrir ei fod yn aflonyddu rhywiol a grymuso disgyblion i dynnu sylw at ymddygiad o’r fath a’u sicrhau y bydd yr ysgol yn cymryd y camau priodol.

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o 24 o argymhellion i wneud mwy i ddiogelu plant a phobl ifanc.

 


 



Jayne Bryant AS
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

“Mae aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn frawychus o gyffredin. Nid yw llawer o ysgolion yn gwybod sut i ymateb i aflonyddu rhywiol ac, weithiau, nid ydynt yn oed yn adnabod arwyddion aflonyddu rhywiol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru rymuso athrawon, rhieni a disgyblion i fod yn gefnogol ac i sylweddoli pryd mae aflonyddu rhywiol yn digwydd. Mae elfen o 'dyna sut mae bechgyn yn ymddwyn’ neu 'dim ond herian mae e' ac, a bod yn onest, mae angen i'r agwedd hon newid. Bydd y canlyniadau, fel arall, yn enbyd.

Mae effaith aflonyddu rhywiol ar rai dysgwyr mor ddifrifol, mae’n effeithio nid yn unig ar eu dysgu, ond gall hefyd effeithio ar eu perthynas ag eraill, eu hiechyd meddwl, eu gobeithion at y dyfodol, a gall – yn yr achosion mwyaf difrifol – arwain at hunan-niwed a hunanladdiad.

Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud cryn dipyn yn yr adroddiad hwn; nid yw ein pobl ifanc yn haeddu dim llai.”

 





Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Estyn yn ystyried sut mae ysgolion yn cofnodi ac yn ymateb i ddigwyddiadau, gan danlinellu y dylid rhoi sylw penodol i hyn yn ystod arolygiadau ysgol.

Mae argymhelliadau’r Pwyllgor yn cydnabod nad cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw ymdrin â phroblem aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Maent yn derbyn bod y rhesymau drosto wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn agweddau cymdeithasol, a bod pornograffi, y cyfryngau cymdeithasol ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pandemig COVD-19, yn dwysáu’r broblem.

Ond mae gan ysgolion yr adnoddau i ganiatáu iddynt arwain y frwydr yn erbyn yr agweddau cymdeithasol hyn.

 

Mwy am y stori hon

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr