“Mae amser yn mynd yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol”

Cyhoeddwyd 17/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i effaith y pandemig COVID-19 ar y diwydiannau creadigol wedi darparu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch sut i gefnogi a diogelu diwydiant sy'n hanfodol i Gymru.

Mewn sesiynau tystiolaeth gydag arbenigwyr yn y diwydiant, clywodd y Pwyllgor fod perygl gwirioneddol y gallai gweithwyr medrus, sy'n hanfodol i'n diwydiannau creadigol, gael eu colli i'r sector oherwydd ni allant gael gafael ar gymorth ariannol a gynigir gan Lywodraeth y DU. Y rheswm am hyn yw nad yw'r gefnogaeth yn addas ar gyfer gweithwyr llawrydd.

Dywedodd Pauline Burt o Ffilm Cymru fod dros 90% o'r diwydiant ffilm a theledu yn weithwyr llawrydd ac yn gwmnïau micro, ar y cyfan.

Yn ôl arolwg gan yr Elusen Ffilm a Theledu, nid yw 93% o weithwyr llawrydd y diwydiant yn gweithio oherwydd yr argyfwng ac nid oedd 74% ohonynt yn disgwyl cael unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Yn seiliedig ar adroddiad gan Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, maent yn amcangyfrif y gall hyd at 16,000 o swyddi gael eu colli yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor wedi croesawu'r cyhoeddiad am gyllid ychwanegol o £59 miliwn gan Lywodraeth y DU. Ond o ystyried maint yr heriau sy'n wynebu'r sectorau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth, bydd yn cael ei wasgaru'n denau iawn.

Mae'r Pwyllgor yn galw am ymrwymiad y bydd cyfanswm y cyllid a gyhoeddwyd yn cael ei wario ar y sectorau hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad ar eu blaenoriaethau ar gyfer yr arian a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau nad oes unrhyw sefydliadau yn gorfod cau am byth neu ddiswyddo aelodau staff gwerthfawr.

Ailddechrau cynyrchiadau ffilm a theledu

Clywodd y Pwyllgor fod cynyrchiadau ffilm a theledu yn cael trafferth sicrhau yswiriant llawn, gan beryglu enw da Cymru yn rhyngwladol fel lleoliad ffilmio. Mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau presennol rhwng cwmnïau sydd â dylanwad ariannol cynhyrchwyr rhyngwladol fel Netflix ac Amazon, sy'n gallu fforddio'r risg, a chynhyrchwyr domestig nad ydynt yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr y diwydiant yswiriant, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chwmnïau cynhyrchu annibynnol i sicrhau bod mwy o yswiriant cynhyrchu llawn ar gael a chynnal trafodaethau gyda'r Trysorlys i hwyluso gwarantau ar gyfer darparwyr yswiriant. 

Ailagor lleoliadau adloniant

Mae ein lleoliadau adloniant yng Nghymru yn ysu i ailagor, ond clywodd y Pwyllgor, cyhyd â bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, y byddai'n costio mwy iddynt fod ar agor na bod ar gau.

Mae cyflogi staff ychwanegol, y prosesau glanhau ychwanegol a'r mesurau rheoli ychwanegol yn ei gwneud hi'n anodd cael unrhyw enillion ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth sydd eisoes yn gweithredu ar elw isel. Ynghyd â'r anhawster o gael yswiriant ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth fyw, mae'n bygwth bywoliaeth lleoliadau llai.

Mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ymyrryd i helpu i ddatgloi'r marchnadoedd yswiriant er mwyn adfer hyder yn y sector. Mae pobl yn awyddus i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw ddychwelyd, ond bydd angen i'r Llywodraeth ymyrryd i ddatrys y broblem bresennol sy'n golygu nad yw cynnal y digwyddiadau hyn yn broffidiol.

Darlledwyr sector cyhoeddus

Mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu heriau digynsail yn sgil y cynnydd mewn gwasanaethau tanysgrifio gwylio ar alw a gostyngiad o ran incwm. Er enghraifft, gwelodd ITV ostyngiad o 41% yn eu refeniw hysbysebu ledled y DU ym mis Ebrill a disgwylir mai'r effaith gyffredinol ar BBC Cymru Wales byddai toriad o £4.5 miliwn yn ei gyllideb. Pwysleisiodd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod cyflymder y newid wedi cynyddu yn ystod y pandemig, a galwyd ar y llywodraeth i ddarparu ymyrraeth 'frys'.

Clywodd y Pwyllgor fod yr argyfwng hwn wedi dangos gwerth darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Maent wedi darparu adnoddau angenrheidiol ar gyfer addysg yn y cartref ac wedi sicrhau bod gwylwyr yng Nghymru yn parhau i gael gwybodaeth am y feirws sy'n benodol i Gymru.

Cytunodd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn parhau i weld eu bywydau'n cael eu hadlewyrchu ar y sgrin, a bod ganddynt fynediad at wybodaeth gywir am ein democratiaeth ddatganoledig a bywyd yng Nghymru yn ehangach, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu'r sector cyhoeddus trwy danlinellu pwysigrwydd cynnal llais Cymreig penodol. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod darlledu gwasanaeth cyhoeddus erioed wedi bod mor angenrheidiol, nac o dan gymaint o fygythiad.

Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd:

"Hyd nes y pandemig COVID-19, mae'r diwydiannau creadigol wedi bod yn ffynnu. Maen nhw'n rhan allweddol o'n heconomi, yn darparu swyddi medrus ac yn rhoi Cymru ar y map ledled y byd.

"Mae amser yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol. Felly, dylai Llywodraeth Cymru nodi fel mater o frys sut y bydd yn blaenoriaethu'r cyllid ychwanegol i sicrhau nad yw ein sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth yn cael eu gorfodi i gau eu drysau am byth neu ddiswyddo aelodau staff gwerthfawr.

"Mae darlledu yn y sector cyhoeddus wedi bod yn elfen hanfodol o'n brwydr yn erbyn COVID-19. Mae darlledwyr wedi darparu gwybodaeth hanfodol am iechyd y cyhoedd sy'n benodol i Gymru, cymorth addysg i blant, yn ogystal ag adloniant mawr ei angen.

"Mae arnom ddyled fawr i fodolaeth y darlledwyr hyn ac mae clywed am yr heriau ariannol sy'n eu hwynebu yn peri pryder. Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ariannol y mae arnynt eu hangen."