Mae angen ewyllys wleidyddol gryfach i wella'r gwasanaethau bysiau 'Sinderela'

Cyhoeddwyd 28/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2017

​Mae angen ewyllys wleidyddol gryfach i ddatrys y problemau sy'n wynebu gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Er gwaethaf cludo mwy o deithwyr nag unrhyw ddull arall o drafnidiaeth gyhoeddus, cafodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wybod mai bysiau yw'r 'gwasanaeth Sinderela' sy'n cael ei ddal mewn cylch dieflig sy'n gweld mwy o geir ac sy'n arwain at fwy o dagfeydd, gan effeithio ar amserlenni, codi costau a gwneud pobl yn llai tebygol o'u defnyddio.

Wedi'u blaenoriaethu a'u cynllunio'n briodol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gallai bysiau leihau tagfeydd, lleihau llygredd aer a gwella safonau iechyd.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: "Mae'r bws yn aml yn cael ei anwybyddu pan fyddwn yn sôn am ein rhwydwaith trafnidiaeth. Eto i gyd mae'r bws yn cludo mwy o deithwyr nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n offeryn anhepgor ar gyfer gweithwyr, dysgwyr, siopwyr a theithwyr hamdden yn eu bywydau bob dydd.

"Wrth wraidd y mater hwn mae'r angen am ewyllys wleidyddol gryfach. Yn gyffredinol, mae'r pwerau, y liferi, a'r ddeddfwriaeth yn eu lle.

"Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd yr hyn sy'n gweithio, ac sy'n annog awdurdodau lleol i fabwysiadu ac addasu arferion da."

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n nodi sut y bydd yn mynd i'r afael ag effaith tagfeydd traffig ar wasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i'r cynllun gynnwys y canlynol:

  • Cydnabyddiaeth o raddfa a maint effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru, ac ymrwymiad cadarn i fynd i'r afael â'r mater;

  • Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth gyda gweithredwyr bysiau i ddatblygu a gweithredu mesurau blaenoriaeth i fysiau, gan gynnwys newidiadau i gyllid er mwyn sicrhau atebion hirdymor a chynaliadwy; ac

  • Asesiad o'r ystod lawn o offer sydd ar gael a pha mor ddefnyddiol y gallent fod wrth fynd i'r afael ag effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys: gweithredu cynlluniau parcio a theithio, codi tâl am dagfeydd, taliadau parcio uwch, ardollau parcio yn y gweithle, a mesurau blaenoriaeth i fysiau.