Mae Comisiwn y Senedd yn falch o gael ei enwi ymhlith Deg Cyflogwr Gorau Working Families ar gyfer 2022

Cyhoeddwyd 27/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr elusen genedlaethol ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n gweithio, mae Working Families wedi cyhoeddi bod Comisiwn y Senedd wedi ennill lle ar ei restr fawreddog a chystadleuol o’r cyflogwyr mwyaf ystyriol o deuluoedd yn y DU.

Yn ei thrydedd flynedd ar ddeg, mae cyflogwyr mawr a bach ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cystadlu bob blwyddyn am le a chwenychir ar restr yr elusen o’r Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio.  

Aseswyd cyflogwyr gan ddefnyddio Meincnod Working Families a chawsant eu sgorio ar bedwar maes allweddol i lunio darlun cynhwysfawr o'u polisïau ac arferion hyblyg ac ystyriol o deuluoedd sy'n cefnogi mamau, tadau a gofalwyr yn benodol.  

Dywedodd Lowri Williams, Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol a Chynhwysiant;  

“Bydd llawer mwy o sefydliadau wedi croesawu gweithio hyblyg fel rhan o greu amgylchedd gwaith cadarnhaol i rieni a gofalwyr ac felly rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod unwaith eto fel un o’r deg cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio a gwneud y Senedd yn lle cadarnhaol i weithio ynddo. Nawr yn fwy nag erioed, mae’n arbennig o bwysig i gyflogwyr wneud yr hyn a allant i gefnogi eu staff ac mae’r wobr hon yn adlewyrchu’r gwerth y mae’r Senedd yn ei roi ar bob un o’i gyflogeion.” 

Dywedodd Jane van Zyl, Prif Swyddog Gweithredol Working Families, y canlynol: 

“Rydyn ni’n falch iawn o gydnabod y 30 sefydliad rhagorol a gyrhaeddodd ein rhestr Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio eleni. Roedd y cyflogwyr hyn yn rhagori yn ein proses feincnodi drylwyr, gan brofi eu bod yn arwain y ffordd wrth greu gweithleoedd sy'n ystyriol o deuluoedd yn y DU. Mae’r amrywiaeth o feintiau a sectorau a gynrychiolir ar y rhestr eleni yn dangos—gydag ymrwymiad i arfer gorau ac awydd i arloesi—ei bod yn bosibl i unrhyw sefydliad gefnogi eu pobl drwy wreiddio arferion hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd.” 

Dyma’r rhestr lawn o’r Deg Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio eleni – yn nhrefn yr wyddor:  

  • Citigroup
  • Cronfa Byw'n Annibynnol yr Alban 
  • Cymdeithas Adeiladu Swydd Efrog
  • DWF
  • Grant Thornton
  • Grŵp NatWest
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • NELFT (Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gogledd-ddwyrain Llundain)
  • Pinsent Masons
  • Senedd Cymru