Mae prentisiaethau'r heddlu yn disgyn drwy'r rhwyd datganoli, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 24/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/08/2018

Nid yw'r pedwar heddlu yng Nghymru yn gallu cael gafael ar arian i gymryd prentisiaid er eu bod yn cyfrannu tua £2 miliwn y flwyddyn i Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y DU, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Prentisiad

Cafodd yr ardoll ei chyflwyno yn 2015 ac mae'n rhaid i bob cyflogwr cymwys ei thalu, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran o'r cyllid ac yn cefnogi prentisiaethau mewn meysydd blaenoriaeth.

Canfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau gan nad yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru, ac nad yw hyfforddiant ac addysg yng Nghymru yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, nid yw prentisiaethau ar gyfer heddluoedd yn cael eu cefnogi gan y naill neu'r llall.

Gall heddluoedd yn Lloegr gael cyllido £24,000 ar gyfer pob swyddog dan hyfforddiant dros brentisiaethau heddlu tair blynedd.

Ond byddai'n rhaid i heddluoedd Cymru ariannu'r £25.8 miliwn (£8.6 miliwn y flwyddyn) cyfatebol eu hunain. Mae costau'r radd yng Nghymru wedi lleihau i £2.8 miliwn y flwyddyn, ond bydd yr effaith yn dal i fod yn sylweddol. 

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref, sef adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am blismona, i ddatrys y mater a sicrhau bod heddluoedd Cymru yn cael gwybod am y trafodaethau.

Roedd tystiolaeth arall yn awgrymu bod safonau gwahanol ledled y DU wedi creu anawsterau yn llunio manylebau swyddi ar draws y busnes ar gyfer cyflogwyr cenedlaethol. Roedd pryderon hefyd bod creu safonau penodol i gwmnïau yn Lloegr wedi cyflwyno cymwysterau sy'n llai cludadwy na'r cymwysterau fframwaith a oedd yn arferol.

Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gall cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gydweithio i roi cyfleoedd sy'n gweddu orau i gyflogwr tra hefyd yn diogelu cludadwyedd cymwysterau.

Mewn adroddiad blaenorol, galwodd y Pwyllgor ar Weinidogion i wneud mwy i gefnogi pobl ar brentisiaethau mewn modd sy'n debyg i'r cymorth sydd ar gael i bobl sy'n astudio cyrsiau addysg uwch, gan gynnwys tocynnau rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus. Flwyddyn ers yr adroddiad hwnnw, mae aelodau'r Pwyllgor yn ailadrodd yr argymhelliad hwnnw.

"Mae prentisiaethau yn ffordd werthfawr i bobl gael hyfforddiant swydd mewn amgylcheddau proffesiynol a dysgu sgiliau gwerthfawr," meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Maent yn ffordd bwysig ac effeithiol o newid bywydau unigolion a thyfu busnesau Cymru a'r economi ehangach.

"Er ein bod yn cefnogi prentisiaethau, credwn fod yr Ardoll Brentisiaethau wedi creu craciau yn y system. Yn benodol, mae'r sefyllfa gyda heddluoedd Cymru yn peri pryder ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref i fynd i'r afael â'r mater hwnnw fel mater o frys.

"Mae yna gwestiynau o hyd ynghylch cyfathrebu ac ymgysylltu â chyflogwyr o bob maint, cludadwyedd a pherthnasedd cymwysterau a'r lefel y mae pob cyflogwr yng Nghymru yn teimlo y cânt gymorth i ddatblygu a thyfu staff newydd.

"Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa yn amlwg yn dal i ddatblygu, ond byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael mor eang â phosibl i gynifer o bobl â phosibl."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref i gynyddu eu hymdrechion i ddatrys y mater o ariannu prentisiaethau'r heddlu yng Nghymru, gan sicrhau bod yr heddluoedd yn cael gwybod yn llawn am unrhyw gynnydd o ran y trafodaethau;

  • mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Fwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru (WAAB) archwilio sut y gall cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gydweithio i wella canlyniadau gwerth am arian sy'n cynrychioli ansawdd da ac sydd fwyaf addas i'r cyflogwr, tra'n diogelu cludadwyedd cymwysterau;

  • mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ganfod ffyrdd arloesol o gefnogi prentisiaethau a dysgu arall yn y gweithlu ar gyfer nifer cynyddol o rolau.

Mae'r adroddiad wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi ymateb iddo.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Yr Ardoll Brentisiaethau: flwyddyn yn ddiweddarach (PDF, 2 MB)