"Mae triniaeth yn bwysig ond ni fydd yn helpu os na allwch dalu eich biliau"

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/01/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'n rhaid i fynd i'r afael ag achosion ehangach problemau iechyd meddwl fod yn rhan o strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae anghydraddoldebau fel tlodi, tai, a gwahaniaethu yn golygu na fydd llesiant y boblogaeth yn gwella – ni waeth pa wasanaethau iechyd meddwl sydd ar waith.

Yn dilyn ymchwiliad a barodd flwyddyn, mae adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd heddiw yn nodi 27 o argymhellion a ddylai lywio degawd nesaf strategaeth iechyd meddwl Cymru pan ddaw strategaeth bresennol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru i ben eleni.

Maent yn cynnwys camau i leihau tlodi, hyfforddiant newydd mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus, a chydgysylltu traws-lywodraethol. 

Cafodd y cynigion eu datblygu yn dilyn tystiolaeth arbenigol a chyngor grŵp cynghori yn cynnwys pobl o bob cwr o Gymru sydd â phrofiad uniongyrchol o anghydraddoldebau iechyd meddwl. 

Dywedodd Naomi Lea, aelod o’r grŵp cynghori:

"Mae’n gwbl iawn bod llawer o sôn am iechyd meddwl ar hyn o bryd - ond mae’n ymddangos nad yw hynny’n ymdrin â’r hyn sy’n ei achosi, mae ond yn mynd i’r afael â’r symptomau.

"I mi, pe na bawn i wedi tyfu i fyny gyda'r trawma a'r profiad o dlodi ces i dydw i ddim yn meddwl y byddai angen i mi ddefnyddio'r gwasanaethau hynny heddiw. Dwi wedi cael trafferth gyda gorbryder ers o'n i tua 14 oed, ac ers hynny dwi wedi cael triniaeth gyson ar gyfer y symptomau - yn hytrach nag ar gyfer fy mhrofiad i fel person.

“Ond dwi’n gwybod bod trawma, tlodi a thyfu i fyny fel gofalwr ifanc wedi effeithio ar fy iechyd meddwl – dyna sydd wrth wraidd y profiadau rydw i wedi’u cael.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu pobl i sylweddoli y gallwn wneud mwy na buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl eu hunain - gallwn sicrhau na fydd angen y gwasanaethau hynny ar bobl yn y lle cyntaf.”

Dywedodd Myles Lewando, aelod o’r grŵp cynghori: 

"Rydw i wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl drwy gydol fy mywyd, a dim ond o fewn y degawd diwethaf y dechreuais i chwilio am gymorth ar ei gyfer. Ond mae’r cymorth a gefais wedi bod yn ddiffygiol ac mi ges i fy nhrosglwyddo yn ôl ac ymlaen rhwng gwahanol wasanaethau heb gael y driniaeth gywir. 

"Dydy meddygon teulu ddim yn gallu delio â’r peth eu hunain, felly maen nhw'n eich cyfeirio at restr aros o naw mis i gael gofal iechyd meddwl arbenigol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r problemau'n gwaethygu. Ac ar ôl aros i gael triniaeth, yn y pen draw maent yn cynnig math anaddas o therapi nad yw’n helpu. Mae eich blwch ar restr y GIG yn cael ei dicio, ond y gwir amdani yw eich bod yn cychwyn o’r newydd eto. 

“Ac mae’r anawsterau economaidd y mae llawer ohonom yn eu hwynebu yn trosi’n uniongyrchol i drafferthion iechyd meddwl gwaeth. Mae’n amser cydnabod bod triniaeth yn bwysig ond ni fydd yn helpu os na allwch dalu eich biliau.

“Nid oes un ateb sy’n gweddu i bawb. Mae angen gwneud y gwasanaethau eu hunain yn addas i'r diben, mae angen mynd i'r afael â'r achosion ehangach a'r materion economaidd, ac mae angen i'r cyfan fod o fewn system gydgysylltiedig lle mae pob rhan wahanol yn gwybod beth mae'r lleill yn ei wneud. Mae argymhellion yr adroddiad hwn yn ceisio mynd i'r afael â hynny i gyd."

Yn ôl Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd: 

“Ni ellir gwahanu ein hiechyd meddwl oddi wrth ein hamodau byw a’n hamgylchiadau – ac mae’n wirioneddol bwysig bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ystyried hynny.

Gall unrhyw un gael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ond mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu llawer mwy o berygl, ac mae hyn yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau yn y gymdeithas.

"Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yw ein cyfle i wneud yn siŵr ein bod yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag achosion ehangach iechyd meddwl gwael ac ymdrin â’r hyn sy’n ei achosi, nid y symptomau yn unig. 

“Mae hefyd yn gyfle i ni ddod â gwahanol wasanaethau at ei gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt fel unigolyn, nid fel cyflwr.

"Mae'r argymhellion rydyn ni wedi'u cyflwyno yn nodi ffordd o gyflawni'r nodau hynny."

Mae'r adroddiad, Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, yn argymell strategaeth iechyd meddwl sy'n cydnabod bod anghydraddoldebau yn y gymdeithas yn rhwystr o ran gwella llesiant y boblogaeth.

Mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru nodi pa arfau sydd ar gael iddi fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny – a pha rai sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth y DU.

Mae hefyd yn galw am adolygiad annibynnol o effaith system les y DU ar iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, ac ymchwilio i’r effaith y gallai datganoli’r polisi lles ei chael ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

 

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch, mae llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L ar gyfer Cymru yn darparu cymorth iechyd meddwl ac emosiynol, ac yn cyfeirio at wasanaethau lleol:

Rhadffôn 24 awr y dydd ar 0800 132 737, neu tecstiwch HELP i 81066.

 

Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi, angen siarad â rhywun neu'n ystyried hunanladdiad, gallwch gysylltu â’r Samariaid:

Rhadffôn 24 awr y dydd o unrhyw ffôn ar 116 123.

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: jo@samaritans.org