Nick Ramsay

Nick Ramsay AS

Nick Ramsay

Nick Ramsay AS

Mae’n rhaid i'r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu barhau i ddysgu gwersi

Cyhoeddwyd 18/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd wedi ymateb i ganfyddiadau adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol – a gyhoeddwyd heddiw, ddydd Iau 18 Mawrth 2021 – sy’n datgelu bod y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu’n gwneud cyfraniad pwysig i reoli COVID-19 yng Nghymru.

Clywodd y Pwyllgor fod y rhaglen wedi cael anhawster i ymdopi â chyfnodau brig cynharach o ran trosglwyddo’r feirws, ond ei bod wedi dangos y gallu i ddysgu ac esblygu'n gyflym wrth ymateb i'r heriau a wynebwyd ganddi.

Mae'r rhaglen wedi dysgu gwersi yn sgil rheoli achosion cynnar, ac wedi ceisio asio trefniadau penodol i Gymru, a threfniadau ledled y DU, yn effeithiol. Clywodd y Pwyllgor fod hon wedi bod yn her, gyda swyddogion yn ei chymharu â cheisio dylunio, adeiladu a hedfan awyren i gyd ar yr un pryd.

Yn dilyn yr adroddiad heddiw, Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Trosolwg o’r Cynnydd Hyd Yma gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, dywedodd Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

“Mae canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol yn rhoi cipolwg gwerthfawr i berfformiad y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru hyd yma. Mae creu’r rhaglen o bron i ddim, ac hynny’n gyflym iawn, wedi bod yn gyflawniad aruthrol, ac mae’n dangos yr hyn sy’n bosib pan fydd cyrff sector cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn cyflawni nod gyffredin.

“Yn amlwg, roedd heriau yn wynebu’r rhaglen tra bod trosglwyddiad COVID-19 ar ei waethaf ond mae’n bwysig ei bod yn parhau i ddysgu gwersi o’r heriau hynny o ystyried y rôl hanfodol sydd ganddi’n cadw golwg ar y feirws wrth i gyfyngiadau gael eu llacio”.