#PaintItPurple – Y Senedd yn troi'n borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cyhoeddwyd 04/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2015

​Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) drwy gefnogi'r ymgyrch #PaintItPurple.

Bydd y Senedd yn cael ei goleuo yn lliw yr ymgyrch ryngwladol, tra bydd gwefan a chyfryngau cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn troi'n borffor i gefnogi'r ymgyrch ryngwladol i hyrwyddo cydraddoldeb menywod.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal ar ystâd y Cynulliad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Maent i gyd yn rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a byddant yn cynnwys:

  • 11 Mawrth – Cyhoeddi adroddiad clymblaid drawsbleidiol y Cynulliad "Menywod mewn Democratiaeth" ar ffyrdd o fynd i'r afael â chynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru;
  • 12 Mawrth – Trafodaeth gyda phanel o ddynion ynghylch sut i gynnwys dynion yn y frwydr dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r panel yn cynnwys Neil Wooding (Cadeirydd – Cyfarwyddwr Gallu a Pherfformiad Sefydliadol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol), Carl Sargeant AC (Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol), Roger Lewis (Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru) a Chris Green (Sylfaenydd yr Ymgyrch Rhuban Gwyn i atal trais yn erbyn menywod);
  • 19 Mawrth – Sesiwn yn y Pierhead gyda Sylvia Ann Hewlett, economegydd ac arbenigwraig ar faterion sy'n ymwneud â rhywedd a'r gweithle.

Dywedodd y Llywydd, "Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi cael ei nodi ers y 1900au cynnar, ac eto dyma ni yn 2015 yn dal i ymgyrchu dros gydraddoldeb i fenywod.

"Mae menywod yn cyfrif am dros hanner y boblogaeth ond pan fyddwn ni'n edrych ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r arweinwyr yn ein cymdeithas, mae'r mwyafrif yn dal i fod yn ddynion.

"Fan lleiaf, rydyn ni'n colli allan ar ddefnyddio rhywfaint o'r dalent orau o gwmpas, ac ar yr ochr dduaf mae gwahaniaethu sefydliadol yn parhau.

"Nid yw menywod yn grŵp lleiafrifol, ac fel y dywedodd Shami Chakrabarti mewn sesiwn yn y Pierhead, mae'n bosibl mai anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yw'r anghyfiawnder mwyaf yn y byd oherwydd y ffaith nad yw menywod yn y lleiafrif."