Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees AC, wedi gwneud y datganiad a ganlyn mewn ymateb i ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit.
Dywedodd Mr Rees:
"Mae'r Pwyllgor Materion Allanol yn croesawu'r ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n cyd-fynd â'n gwaith ni o ran ymchwilio i barodrwydd ar gyfer Brexit.
"Yn benodol, mae'r angen am i sefydliadau gynnal gwaith ar y cyd, ynghyd â'r angen am gyfathrebu effeithiol â'r cyhoedd, yn cytuno â'n canfyddiadau blaenorol ni yn y maes hwn.
"Byddwn yn trafod casgliadau'r adroddiad yn fanwl cyn ystyried a oes angen ystyried rhai meysydd ymhellach."
DIWEDD