Parodrwydd ar gyfer Brexit: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cyhoeddwyd 27/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2019


Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees AC, wedi gwneud y datganiad a ganlyn mewn ymateb i ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit.

Dywedodd Mr Rees:

"Mae'r Pwyllgor Materion Allanol yn croesawu'r ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n cyd-fynd â'n gwaith ni o ran ymchwilio i barodrwydd ar gyfer Brexit. 

"Yn benodol, mae'r angen am i sefydliadau gynnal gwaith ar y cyd, ynghyd â'r angen am gyfathrebu effeithiol â'r cyhoedd, yn cytuno â'n canfyddiadau blaenorol ni yn y maes hwn. 

"Byddwn yn trafod casgliadau'r adroddiad yn fanwl cyn ystyried a oes angen ystyried rhai meysydd ymhellach."

DIWEDD