Perygl o fwlch cynyddol mewn gweithgarwch corfforol rhwng cymunedau yng Nghymru ar ôl y pandemig

Cyhoeddwyd 30/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae pobl mewn cymunedau tlotach yng Nghymru yn gwneud llai o ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud nag ardaloedd mwy cyfoethog, a gallai'r bwlch dyfu ar ôl llacio'r cyfyngiadau.

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae arolwg gan Chwaraeon Cymru wedi canfod bod 39 y cant o oedolion o gefndiroedd mwy cefnog yn gwneud mwy o ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud, o gymharu â 32 y cant sy'n gwneud llai - sef cynnydd o 7 pwynt canran mewn gweithgarwch. Ar y llaw arall, mae gostyngiad o bedwar pwynt canran mewn gweithgarwch ymysg oedolion o ardaloedd llai cefnog Cymru – mae 33 y cant yn gwneud llai o ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud, o'i gymharu â 29 pwynt canran a ddywedodd eu bod yn gwneud mwy.

Dywedodd Marcus Kingwell o EMD UK (y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer ymarfer corff grŵp) wrth y Pwyllgor:

"So, while the, if you like, middle classes—the ABC 1s—have been doing more physical activity, developing and engraining that as a habit, those from the poorest backgrounds are doing less, and I'm worried that they will then be making that into a habit as well."

Mae'r bwlch anghydraddoldeb o ran ymarfer corff plant wedi tyfu hefyd yn ystod y cyfyngiadau symud - dim ond 23 y cant o rieni o ardaloedd mwy difreintiedig sy'n dweud bod eu plant yn gwneud mwy, o'i gymharu â 36 y cant sy'n dweud eu bod yn gwneud llai.

Mae'r Pwyllgor yn credu ei fod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r bwlch anghydraddoldeb cynyddol fel rhan o'i chynllun adfer ar gyfer y sector chwaraeon.

Cafodd pob math o chwaraeon ei ganslo ledled y wlad ar ddechrau'r cyfyngiadau symud a dim ond yn ddiweddar y caniatawyd i rai mannau chwaraeon awyr agored agor eto, gan gynnwys cyrtiau tenis a thraciau athletau.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, rhybuddiodd Undeb Rygbi Cymru fod rygbi proffesiynol yn cael ergyd enfawr, ac y bydd yn parhau i deimlo'r ergyd. Collwyd £10 miliwn mewn refeniw yn sgil canslo gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality.


 

Rydym am glywed gennych am effaith COVID-19 yng Nghymru, a’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r ymateb.

Rhannwch eich barn >

 



Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod pêl-droed ar lawr gwlad yn debygol o gael ei daro'n galed, gyda gêm y merched yn cael ei tharo galetaf oll. Gwnaeth y Prif Weithredwr, Jonathan Ford, rybuddio Aelodau'r Pwyllgor y gallai'r gêm gael ei dinistrio'n llwyr oherwydd y pandemig hwn.

Mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau a fyddai'n caniatáu i gefnogwyr ddychwelyd drwy gatiau meysydd chwaraeon a chynhyrchu refeniw angenrheidiol ar gyfer clybiau sy'n ei chael hi'n anodd.

"Fel cymaint o sectorau a chymunedau eraill, mae'r coronafeirws, a'r camau y bu'n rhaid i lywodraethau eu cymryd i arafu ei ledaeniad a diogelu bywydau, wedi cael effaith niweidiol iawn ar chwaraeon," meddai Helen Mary Jones AS, Cadeirydd dros dro Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Rydym yn canmol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am annog rhyw fath o ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau, gan ei fod yn cydnabod pwysigrwydd a buddion gweithgareddau ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol.

"Mae'r cyferbyniad o ran lefelau ymarfer corff rhwng cymunedau yn peri pryder mawr a rhaid i ni ofalu nad yw'r bwlch hwn yn tyfu, ac nad yw diffyg ymarfer corff yn dod yn fater o drefn.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn fel rhan o'i chynllun adfer ac i weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu cymorth digonol i sicrhau bod ymddiriedolaethau hamdden a chlybiau cymunedol ledled y wlad yn goroesi."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai cynllun adfer a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector fynd i'r afael â'r bwlch cynyddol mewn anweithgarwch corfforol o fewn grwpiau demograffig a rhyngddynt;
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ystyried y cymorth sydd ar gael i ymddiriedolaethau hamdden a bod yn barod i ymestyn y cymorth cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau bod ymddiriedolaethau hamdden a chlybiau cymunedol yn goroesi; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar dorfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon, sy'n cydnabod pa mor anaddas yw dull cyffredinol eang. Dylid datblygu'r canllawiau hyn mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu chwaraeon a darparwyr cyfleusterau cyn gynted â phosibl.

Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Effaith yr achosion o COVID-19 ar chwaraeon (PDF, 258 KB)