#Pleidleisio16Cymru - 'Ie' meddai pobl ifanc i ostwng yr oed pleidleisio

Cyhoeddwyd 15/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Hoffai dros hanner y bobl ifanc yng Nghymru i'r oed pleidleisio gael ei ostwng i 16, yn ôl ymgynghoriad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Lansiodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, ymgynghoriad #Pleidleisio16Cymru ym mis Tachwedd ac fe gafwyd dros 10,000 o ymatebion gan bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ledled Cymru - yr ymateb mwyaf erioed i ymgynghoriad gan y Cynulliad.

Dyma rai o'r prif ganfyddiadau:

  • Dywedodd 53 y cant o'r rhai a ymatebodd 'ie' i ostwng yr oed pleidleisio i 16, dywedodd 29 y cant 'na, ac roedd 18 y cant yn 'ansicr';
  • Dywedodd 51 y cant mai pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio fyddai eu dewis cyntaf;
  • Roedd 79 y cant o'r farn ei bod yn bwysig i bobl ifanc ddysgu am wleidyddiaeth a'r system bleidleisio;
  • Dywedodd 77 y cant mai'r ysgol / coleg fyddai'r lle gorau i ddysgu am wleidyddiaeth a'r system bleidleisio;
  • Dywedodd 64 y cant y byddent yn hoffi dysgu mwy am y system wleidyddol;
  • Dywedodd 58 y cant y byddent yn pleidleisio mewn etholiad yfory pe baent yn gallu.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Dyma'r ymateb mwyaf erioed inni gael i ymgynghoriad gan y Cynulliad, sy'n brawf ei fod yn ddadansoddiad teg o farn pobl ifanc ar y mater hwn.

"Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad unigryw i'r ddadl ynghylch gostwng yr oed pleidleisio.  Er bod gwleidyddion yn San Steffan ac yma yn y Senedd wedi bod yn trafod y mater hwn yn fanwl, mae hyn yn rhoi cipolwg pwysig inni o farn y bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y newid posibl yn y gyfraith.

"Ar yr adeg pan fo Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwblhau Bil Cymru drafft newydd i gynnwys datganoli trefniadau etholiadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, mae maint y sampl a barn y bobl ifanc fel yr amlygwyd yn yr adroddiad yn rhoi mandad clir i Aelodau'r Cynulliad mai dyma ewyllys pobl ifanc Cymru.

"Rhaid imi a'm cyd-wleidyddion hefyd wrando ar y cannoedd o sylwadau a wnaed bod awydd gan y genhedlaeth ifanc i bleidleisio ond nad ydynt yn gallu oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r broses.  Byddaf yn parhau i chwarae fy rôl o ran mynd i'r afael â'r diffyg gwybodaeth hwn ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y mater hwn gydag Aelodau'r Cynulliad a Gweinidogion y Llywodraeth dros y misoedd nesaf.

"Rwyf innau wedi cael fy ysbrydoli gan yr holl sylwadau ysbrydoledig a ddaeth i law.  Dyma un o'm ffefrynnau: "Caiff democratiaeth ei chynnal gan ddinasyddion yn chwarae eu rhan yn gyfartal â gwleidyddion".  Mae pobl ifanc yn rhan annatod o'r broses o lunio dyfodol ein cenedl - mae'n rhaid inni roi'r gefnogaeth gywir iddynt fel ein bod yn gwneud y gorau o'u cyfraniad".

Caiff yr adroddiad ei lansio yn "Cynhadledd Llais dy Gynulliad" yn y Senedd ar 15 Gorffennaf, a fydd yn cael ei mynychu gan y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.

Dywedodd Dan Boughton o Gaerdydd, sy'n 21 oed: "Rwy'n erbyn gostwng yr oed pleidleisio i 16.  Sut gall pobl ifanc ddeall sut i bleidleisio os nad ydynt wedi cael eu haddysgu yn y lle cyntaf?"

Dywedodd Finley Morris o Gaerdydd, sy'n 18 oed: "Yn bersonol, rwy'n credu y dylai pobl ifanc sy'n 16 oed allu pleidleisio.  Fodd bynnag, ni ddylent gael yr hawl hyd nes bod addysg wleidyddol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm."

Yn ystod y gynhadledd, bydd y Llywydd yn ymrwymo i gyfres o gamau gweithredu mewn ymateb i farn pobl ifanc Cymru.

Bydd y Fonesig Rosemary yn gwneud y canlynol:

  • Defnyddio canlyniadau'r arolwg i roi gwybod i arweinwyr y pleidiau / yr Ysgrifennydd Gwladol cyn etholiad Mai 2016 a chyflwyno Bil Cymru;
  • Defnyddio'r canlyniadau i lywio trafodaethau gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch:
  • codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r broses etholiadol ac addysg wleidyddol yn fwy cyffredinol;
  • trefniadau etholiadol yn y dyfodol fel y maent wedi'u drafftio yn narpariaethau perthnasol Bil Cymru;
  • Defnyddio canlyniadau'r arolwg i hysbysu'r Gweinidog Addysg bod pobl ifanc wedi galw am fwy / gwell addysg wleidyddol o ganlyniad i'r ymgynghoriad er mwyn bwydo i mewn i unrhyw newidiadau i'r cwricwlwm yn y dyfodol;
     
  • Defnyddio canlyniadau'r arolwg i wella ein darpariaeth addysg ac allgymorth ein hunain ymhellach a thrafod cyfleoedd newydd i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, er enghraifft, y Comisiynydd Plant a chyrff anllywodraethol eraill ar weithgareddau newydd.