#Pleidleisio16Cymru - Y Llywydd yn lansio sgwrs i Gymru gyfan am ostwng yr oedran pleidleisio

Cyhoeddwyd 20/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/04/2015

A ddylai pobl ifanc yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau pan fyddan nhw'n 16 oed?

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn credu y dylen nhw.

Heddiw (20 Tachwedd), rydyn ni'n dathlu 25 mlynedd ers cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'r Fonesig Rosemary yn lansio sgwrs ynghylch Pleidleisio@16 â phlant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru i weld a ydyn nhw'n cytuno.

 

 

Gofynodd y Llywydd, "Gall pobl ifanc yng Nghymru wasanaethu yn y lluoedd arfog, talu trethi a priodi pan fyddan nhw'n 16 oed, felly pam na allan nhw bleidleisio?

"Mae'n anghyson, yn fy marn i, bod modd gofyn i bobl ifanc 16 oed i gyfrannu at gyfoeth eu gwlad er nad oes ganddyn nhw ffordd o ddweud eu dweud am sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.

"Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai'n deddfu i alluogi pobl ifanc 16 oed yng Nghymru i bleidleisio mewn refferenda yn y dyfodol ynghylch datganoli pwerau i amrywio trethi i Gymru.

"Onid yw'n gwneud synnwyr, felly, y dylen nhw allu pleidleisio ym mhob etholiad?

"Dyna pam fy mod yn lansio sgwrs genedlaethol â phobl ifanc heddiw i gael clywed eu barn."

I gymryd rhan yn y sgwrs ynghylch Pleidleisio@16, ewch i wefan Dy Gynulliad Di yn www.dygynulliad.org, lle y gall pobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg ar-lein.

Bydd gwybodaeth ar gael drwy ffrydiau Twitter y Cynulliad hefyd, @DyGynulliad a @CynulliadCymru.

  • Bydd timau addysg ac allgymorth y Cynulliad yn mynd i gyfarfodydd grwpiau ieuenctid ac yn creu pecynnau gwybodaeth fel y gall pobl ifanc gynnal eu trafodaethau eu hunain.
  • Bydd gwefan Dy Gynulliad Di yn cael ei diweddaru'n gyson i roi gwybod i bobl ifanc sut y mae'r sgwrs yn datblygu. Bydd y Cynulliad hefyd yn rhoi'r holl wybodaeth berthnasol ar ei wefan, gan gynnwys adnoddau a thrafodaethau a gynhelir gan sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn.
  • Ar ôl casglu'r dystiolaeth a'r data at ei gilydd, bydd y Cynulliad yn cynnal diwrnod ieuenctid ym mis Gorffennaf i drafod y canlyniadau a beth a ddylai ddigwydd nesaf.