Potensial mawr i Fil Deddfwriaeth wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch

Cyhoeddwyd 27/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2019

Mae potensial i Fil Deddfwriaeth (Cymru) wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch yn ôl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nodau’r Bil yw:

gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, a’i gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.”

Wrth gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, mae’r Pwyllgor yn argymell bod angen naratif cliriach ynghylch ystyr ‘hygyrchedd cyfraith Cymru’.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dod i’r casgliad bod yn rhaid i fesurau ychwanegol, fel sicrhau bod ymarferwyr a sylwebaeth academaidd ar gyfraith Cymru ar gael, fod yn rhan ganolog o wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Cred y Pwyllgor fod ansicrwydd yn bodoli ynghylch bwriadau’r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer codeiddio cyfraith Cymru. Mae’n dod i’r casgliad bod angen eglurder ar y mater hwn, yn enwedig gan y gallai unrhyw ddryswch posibl fod yn rhwystr i weithredu’r Bil.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai’r Cwnsler Cyffredinol adolygu’r ddeddfwriaeth ar bwynt canol ffordd tymor cyntaf y Cynulliad y daw’r ddeddfwriaeth i rym.

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Mae galw mawr ers tro i symleiddio, neu egluro, llyfr statud Cymru i’w wneud yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddeall.

“Mae’r Pwyllgor hwn a’i ragflaenwyr wedi gwneud sylwadau eisoes ar ba mor anodd eu treiddio y gall cyfreithiau fod.

“Credwn fod gan Fil Deddfwriaeth (Cymru) y potensial i helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon, ond yn gyntaf mae’n rhaid cael rhagor o eglurder ynghylch ystyr cyfraith hygyrch yng Nghymru.

“Rydym yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac edrychwn ymlaen at drafod ei rinweddau, a’r gwelliannau posibl iddo, gyda chyd-Aelodau’r Cynulliad.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylid diwygio’r Bil fel ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol weithredu rhaglen hygyrchedd a baratoir yn unol ag adran 2(1);

  • Dylid diwygio’r Bil fel bod gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru yn cael eu cynnwys fel dyletswydd o dan adran 2(3) yn hytrach na bod yn ddewisol o dan adran 2(4); a

  • Dylid diwygio adran 2(7) o’r Bil fel ei bod yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan raglen adran 2(2).

Mi fydd trafodaeth a phleidlais ar y Bil ac adroddiad y Pwyllgor yn cael eu cynnal mewn cyfarfod llawn o’r Cynulliad y mis nesaf. Os cytunir arno, bydd y Bil yn symud ymlaen i ail gyfnod proses ddeddfu’r Cynulliad.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil Deddfwriaeth (Cymru): Adroddiad Cyfnod 1 Mawrth 2019 (PDF, 1 MB)