Cyhoeddwyd 22/10/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor Cynulliad i glywed tystiolaeth ar gynllunio gofal cymdeithasol
Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn parhau â’i ymchwiliad i Gynllunio Gweithlu yr wythnos hon.
Bydd y Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, y Ganolfan Ymchwil Gwaith Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe a chan yr Ysgol Addysg Meddygol a Deintyddol ôl-raddedig, Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i gynllunio gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Mae’r ymchwiliad yn edrych ar faterion cysylltiedig â’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru megis y prinder Meddygon Teulu mewn rhai ardaloedd, faint o swyddi nyrsio gwag sy’n cael eu llenwi gan staff asiantaethau neu staff banc, y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon iau, a faint o swyddi gwag sydd ar gael i Weithwyr Proffesiynol perthynol i Iechyd (AHPs). Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 70,000 o bobl yng Nghymru, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu gan y sector cyhoeddus, y sectorau gwirfoddol a’r sectorau preifat. Mae’r ymchwiliad hwn yn edrych ar anawsterau recriwtio a chadw gyda golwg ar staff gofal cymdeithasol ac effaith polisïau’r Llywodraeth yn y meysydd hyn.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 9:15am ddydd Mercher 24 Hydref 2007 yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda