Pwyllgor Cynulliad i glywed tystiolaeth ar gynllunio gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd 22/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i glywed tystiolaeth ar gynllunio gofal cymdeithasol

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn parhau â’i ymchwiliad i Gynllunio Gweithlu yr wythnos hon. Bydd y Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, y Ganolfan Ymchwil Gwaith Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe a chan yr Ysgol Addysg Meddygol a Deintyddol ôl-raddedig, Prifysgol Caerdydd. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i gynllunio gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Mae’r ymchwiliad yn edrych ar faterion cysylltiedig â’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru megis y prinder Meddygon Teulu mewn rhai ardaloedd, faint o swyddi nyrsio gwag sy’n cael eu llenwi gan staff asiantaethau neu staff banc, y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon iau, a faint o swyddi gwag sydd ar gael i Weithwyr Proffesiynol perthynol i Iechyd (AHPs). Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 70,000 o bobl yng Nghymru, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu gan y sector cyhoeddus, y sectorau gwirfoddol a’r sectorau preifat.  Mae’r ymchwiliad hwn yn edrych ar anawsterau recriwtio a chadw gyda golwg ar staff gofal cymdeithasol ac effaith polisïau’r Llywodraeth yn y meysydd hyn. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am  9:15am ddydd Mercher 24 Hydref  2007 yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda