Galw am dreialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/01/2023   |   Amser darllen munudau

Dylai Cymru arwain y ffordd wrth edrych yn fanwl ar sut y gallai wythnos waith pedwar diwrnod hybu cynhyrchiant, llesiant a’r economi, mewn gwlad sydd ymhlith y gwledydd â’r oriau gwaith hwyaf yn Ewrop.

Daw’r galwadau o ganlyniad i Ddeiseb a gyflwynwyd i’r Senedd gan Mark Hooper, entrepreneur cymdeithasol o'r Barri.

Ar ôl casglu tystiolaeth ar y mater, ar ddydd Mawrth 24 Ionawr fe gyhoeddodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd adroddiad sy’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal treialon o fewn y sector cyhoeddus datganoledig i leihau oriau gwaith, am yr un cyflog.

Dylai’r cynllun peilot weithio ar y cyd â threialon sydd eisoes wedi’u cynnal yn y sector preifat, a chael eu hasesu’n ddiduedd i fesur yr effeithiau economaidd, yr effeithiau cymdeithasol a’r effeithiau amgylcheddol.

Dylid ystyried y dystiolaeth fyd-eang hefyd, o wledydd fel Gwlad yr Iâ, yr Alban, Iwerddon, Sbaen, Gwlad Belg, Seland Newydd a Japan ble mae camau gwirioneddol tuag at dreialu neu gyflwyno patrymau gwaith newydd.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd: “Mae’n gynnig beiddgar ond nid yn fwy beiddgar na nod yr ymgyrchwyr hynny a frwydrodd dros weithio pum niwrnod yr wythnos, a thros wyliau â thâl a thâl salwch, ac eto rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol.

“Mae pobol Cymru ymhlith y bobl sy’n gweithio’r oriau hwyaf yn Ewrop. Er gwaethaf yr oriau hir, mae cynhyrchiant yn isel yn y DU, ac wrth fanylu ar y cysylltiad rhwng yr oriau gwaith a chynhyrchiant cyfatebol gallwn ddechrau ystyried yr wythnos waith pedwar diwrnod yn wahanol.

“Mae arbrofion yn cael eu cynnal ar draws y byd -ond bydd gennym wybodaeth lawer cryfach o sut maen nhw’n cyd-fynd â’n hamgylchiadau yma yng Nghymru wrth gynnal ein harbrofion ein hunain. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ein galwad am arbrawf cymedrol yn ein sector cyhoeddus, fel y bydd dadleuon yn y dyfodol ar y pwnc hwn yn cael eu llywio’n llawnach gan dystiolaeth gan Gymry ar effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol wythnos waith pedwar diwrnod.”

Mae rhai o’r dadleuon dros wythnos waith fyrrach yn honni y gall hybu cynhyrchiant ochr yn ochr â llesiant. Mae manteision i'r amgylchedd a gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau hefyd yn cael eu nodi fel dadleuon o blaid.

Mae’r deisebydd Mark Hooper yn croesawu’r adroddiad: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen tuag at fyd lle mae gennym well perthynas gyda gwaith. Heddiw, mae sut rydym yn ennill ein bywoliaeth yn flaenllaw yn ein bywydau yn rhy aml, ac mae hynny’n ein gwneud ni’n fwy sâl, yn fwy trist ac yn y pen draw yn llai cynhyrchiol.”

Yn ystod ei ymchwiliad bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y dadleuon yn erbyn. Mae’r adroddiad yn cydnabod y byddai rhai sectorau’n cael trafferth i weithredu o fewn strwythur pedwar diwrnod, er enghraifft addysg, iechyd, lletygarwch a gwasanaeth personol, ac y gallai lleihau oriau gwaith waethygu heriau sy’n gysylltiedig â straen i rai gweithwyr, sydd eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu gorweithio. 

Er bod Pwyllgorau’r Senedd yn ymdrechu i ddod i gonsensws trawsbleidiol, ni ellid dod i gytundeb ar y pwnc hwn. Nodir barn leiafrifol Joel James AS, sy’n Aelod o’r Pwyllgor, yn yr adroddiad hefyd, ac nid oedd ef yn cytuno â’r casgliadau terfynol.

Caiff yr adroddiad ei anfon at Lywodraeth Cymru ar gyfer ei ystyried. 

O Bump i Bedwar? Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru