Woman sitting on Senedd steps

Woman sitting on Senedd steps

Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 y Senedd yn cwrdd am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd 11/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 16 Mai pleidleisiodd y Senedd i greu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19.

Heddiw, fe wnaeth y Pwyllgor gwrdd am y tro cyntaf.

Dywedodd Cyd-gadeiryddion y Pwyllgor, Tom Giffard AS a Joyce Watson AS:

“Heddiw fe wnaeth y Pwyllgor gwrdd am y tro cyntaf ac mae’r aelodau yn gytûn y byddwn, ar ran pobl Cymru, yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr gyda’r nod o lenwi’r bylchau yng ngwaith Ymchwiliad Covid-19 y DU.

“Mae ein cyfrifoldebau wedi’u gosod gan y Senedd gyfan a byddwn yn dilyn ei ddymuniad. Yn ogystal ag edrych ar y meysydd na ddaeth o dan sylw ymchwiliad y DU byddwn yn edrych yn fanylach ar faterion penodol sy’n berthnasol i Gymru.

“Drwy gydol yr haf byddwn yn dilyn gwaith ymchwiliad cyhoeddus y DU yn agos gan gasglu cyngor a chymorth arbenigol a fydd yn llywio ein gwaith am y misoedd i ddod.

“Byddwn yn ailymgynnull ym mis Medi i ddatblygu amserlen ar gyfer ein gwaith, yn gysylltiedig â chylch gwaith ymchwiliad y DU.

“Mae hyn yn waith difrifol, ac mae’r bywydau a gollwyd, a’u teuluoedd, wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Byddwn yn sicrhau fod y cyhoedd ac arbenigwyr yn cael eu cynnwys ar hyd y daith wrth i ni archwilio rôl Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn ystod y pandemig.”