Committee room

Committee room

Pwyllgor i ddiwygio'r Senedd yn cael cefnogaeth ASau

Cyhoeddwyd 06/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2021   |   Amser darllen munud

Pleidleisiodd Aelodau’r Senedd i greu Pwyllgor newydd, a fydd yn bwrw ymlaen â’r cam nesaf i ddiwygio’r Senedd.

Mae'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies AS, wedi cael y dasg o ddatblygu polisi ar gyfer Bil ar ddiwygio'r Senedd. Bydd y Pwyllgor yn trafod tri mater:

  • maint y Senedd a’i system ar gyfer ethol Aelodau,
  • mesurau i wella amrywiaeth y Senedd,
  • creu system ar gyfer adolygu ffiniau etholaethau a dosbarthu seddi.

Dywedodd  Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

“Rwy’n falch bod y Senedd heddiw yn cymryd cam pwysig ymlaen i gryfhau democratiaeth Cymru.

“Mae datganoli wedi datblygu llawer ers ei gyflwyno ym 1999. Gyda phwerau deddfu a chodi treth sylfaenol bellach, mae'n hanfodol bod y Senedd yn barod i lunio deddfwriaeth dda a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ran pobl Cymru.

“Rydym wedi clywed tystiolaeth gref gan arbenigwyr bod angen i’r Senedd newid - bydd ein Pwyllgor newydd yn helpu i sicrhau bod ein Senedd yn ddigon mawr i gyflawni ei dyletswyddau pwysig, ei bod yn adlewyrchu poblogaeth Cymru a bod ei system etholiadol yn cynrychioli ewyllys y pleidleiswyr yn y ffordd orau.”

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd:

“Mae’n iawn bod materion pwysig fel gweithredu ein democratiaeth yn cael eu hystyried ar sail drawsbleidiol.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob plaid i sicrhau consensws ar sut rydym yn adeiladu Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. ”

Daw creadigaeth y Pwyllgor newydd ar ôl cyhoeddi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad  yn 2017, a oedd yn argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol ar y Cynulliad (fel yr oedd). Byddai'r Aelodau hyn yn cael eu hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol sydd ag atebolrwydd i’r cyhoedd ac un sydd wedi'i seilio ar amrywiaeth.

Mae nifer o argymhellion y Panel eisoes wedi dod i rym trwy ddeddf newydd sef Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Roedd hyn yn cynnwys ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd Cymru a chyflwyno pleidleisiau yn 16 oed.

Sefydlwyd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn flaenorol i gasglu rhagor o dystiolaeth am yr angen i ddiwygio, i wrando ar farn y cyhoedd ac i amlinellu cynllun clir ar gyfer pleidiau gwleidyddol a'u maniffestos cyn etholiad Senedd 2021.

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad  ym mis Medi 2020 a thaerodd fod “tystiolaeth glir a chryf bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd, bod diffyg amrywiaeth yn ei haelodaeth, bod y system etholiadol bresennol yn cyfyngu ar ddewis i bleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau, ac na ddylid caniatáu i ddiffyg mecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau'r Senedd barhau.”

Bydd y Pwyllgor trawsbleidiol newydd yn ystyried casgliadau'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Erbyn 31 Mai 2022 bydd yn cyflwyno adroddiad gydag argymhellion ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio'r Senedd.