Pwyllgor Iechyd yn clywed ein bod yn wynebu “storm berffaith o ran salwch meddwl”

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Pwyllgor Iechyd y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod iechyd meddwl yn ganolog i’w chynlluniau adfer yn dilyn COVID-19 ar ôl clywed gan amrywiol arbenigwyr am effaith y pandemig ar iechyd meddwl.

Mewn adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dweud ei fod yn pryderu’n arw am allu pobl i gael gwasanaethau iechyd meddwl ac mae’r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn y cyswllt hwn yn peri pryder. 

Yn ôl Mind Cymru, mae un o bob tri oedolyn a thri o bob pedwar person ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Roedd 18% o’r oedolion a 39% o’r bobl ifanc a oedd wedi ceisio cael cymorth iechyd meddwl wedi methu gwneud hynny. Mae'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn dangos bod pobl wedi cael trafferth cael cymorth ar draws y sbectrwm o anghenion, o’r gwasanaethau ymyrryd a’r gwasanaethau cymorth sylfaenol i’r gwasanaethau gofal mewn argyfwng.  

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod effaith tymor byr a thymor hwy y pandemig ar iechyd meddwl yn ganolog i’w hymateb i'r pandemig ac i’w chynlluniau adfer, a bod tystiolaeth ac arbenigwyr iechyd meddwl yn cyfrannu at benderfyniadau.

Rhoi’r un flaenoriaeth i iechyd meddwl ac iechyd corfforol

Yn 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd adroddiad ‘Busnes Pawb' a oedd yn codi pryderon difrifol am allu pobl i gael cymorth iechyd meddwl priodol ac amserol, yn enwedig mewn cyfnodau o argyfwng. Cyfeiriodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at bryderon tebyg yn ei adroddiad ‘Cadernid Meddwl’ yn 2018 a’i adroddiad diweddaru yn 2020. 

Oherwydd effeithiau parhaus y pandemig ar iechyd a lles meddyliol pobl, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod cymorth iechyd meddwl ar gael. Ni ddylid dadflaenoriaethu gwasanaethau iechyd yn ystod y cyfnod hwn, nac yn ystod unrhyw don arall o Covid-19, a dylid sicrhau nad yw’r gweithlu iechyd meddwl yn cael ei adleoli.

Mae’r Pwyllgor wedi tynnu sylw droeon at yr angen i sicrhau bod iechyd meddwl yn cael yr un sylw ag iechyd corfforol. Mae’n gwbl annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael yr un flaenoriaeth ag iechyd corfforol. Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad oedd digon wedi’i wneud  i roi’r argymhelliad hwn ar waith cyn y pandemig, ac y bydd effaith Covid-19 yn rhwystr arall.

Hunanladdiad a hunan-niweidio

Er bod y Pwyllgor yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar i ddata swyddogol ddangos pa effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar gyfraddau hunanladdiad, mae’n credu’n gryf y dylem fod yn gweithredu nawr i liniaru'r risgiau, yn hytrach nag aros am yr ystadegau. Bydd llawer o’r ffactorau risg cysylltiedig â hunanladdiad yn gwaethygu oherwydd y pandemig.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ei fod wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio, ymhlith pobl ifanc ac oedolion hŷn, ond awgrymodd fod y brif effaith eto i ddod.

“Rwy’n credu ein bod wedi creu storm berffath o ran salwch meddwl.  Gwyddom fod tri ffactor hysbys iawn cysylltiedig ag iselder a hunanladdiad ac, yn anffodus, mae COVID, a’r cyfyngiadau cysyltiedig, a chanlyniad y rhain, wedi cynyddu’r ffactorau risg hynny.” Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar atal hunanladdiad; mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro unrhyw effaith bosibl y pandemig ar gyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio ac i roi gwybod i’r Pwyllgor ar fyrder am gylch gwaith y Grŵp hwn a’r amserlenni a bennwyd ar gyfer ei waith.

Cymorth profedigaeth

Clywodd y Pwyllgor hefyd gan rai a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Clywodd am profiadau trawmatig pobl a oedd wedi colli anwyliaid ar adeg pan nad oeddent yn gallu bod gyda nhw ar ddiwedd eu hoes, nac yn gallu troi at ffrindiau a theulu am gysur yn y ffordd arferol. Gallai hyn gael effaith barhaol ar eu hiechyd meddwl.

“Nes byddwch yn cael profedigaeth eich hun, nid fyddwch yn deall, o reidrwydd, ei bod yn bosibl cael marwolaeth dda, (…). a’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â hynny, sy’n cynnwys bod yno (…), ac mae llawer o’r rhain wedi bod yn amhosibl o dan gyfyngiadau COVID-19. Ac felly, dylem bryderu o ddifrif am amgylchiadau’r marwolaethau hyn, ac rwy’n credu y dylem fod yn effro i effaith hynny ar unigolion ac ar gymunedau hefyd.” - Samariaid Cymru

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg yn ddiweddar fod Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol wedi’i sefydlu a bod fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth yng Nghymru yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr a chyfeiriadur o'r gwasanaethau profedigaeth sydd ar gael.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ati i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion cynyddol y rhai sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i Covid-19 a'r rhai nad oeddent yn gallu bod gyda'u hanwyliaid ar ddiwedd eu hoes.

“Mae Covid-19 wedi dod â sawl her, nid yn unig o ran ei effeithiau corfforol, ond hefyd ei effaith ar lesiant emosiynol a meddyliol pobl. Mae bod heb gyswllt â’ch teulu, eich ffrindiau, a rhwydweithiau cymorth eraill am gyfnodau hir o amser wedi cael effaith sylweddol.  Rydym yn gwybod bod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo.

“Mae Cymru wedi bod drwy drawma cenedlaethol dros y naw mis diwethaf a rhaid i Lywodraeth Cymru sylweddoli mai un o ganlyniadau mwyaf difrifol y pandemig yw ei effaith ar iechyd meddwl. P'un ai oherwydd bod y cyfyngiadau wedi arwain at unigrwydd, at golli swyddi, at galedi ariannol neu brofedigaeth, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod cymorth a thriniaethau iechyd meddwl ar gael.

"Mae'r angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn thema sydd wedi codi dro ar ôl tro yn ystod llawer o waith y Pwyllgor hwn, ac mae Covid-19 wedi dod â hyn i’r amlwg.  Mae’n gwbl annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol ac ni allwn ganiatáu i hyn barhau.” - Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon