Pwyllgor y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon

Cyhoeddwyd 09/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

​Mae pwyllgor o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth leol a Chymunedau i'r casgliad bod cyfiawnhad dros nodau'r Bil, a fydd yn cryfhau pwerau'r Ombwdsmon, gan gynnwys caniatáu iddo lansio ymchwiliadau heb gael cwyn yn gyntaf, ac ymchwilio i sefydliadau gofal iechyd preifat. Yr oedd o'r farn y byddai'r Bil yn cryfhau egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor yn argymell na ddylai'r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb ymgynghori'n llawn â rheoleiddwyr perthnasol yn gyntaf, ac y dylai'r Ombwdsmon gadw cofrestr o bob cwyn, nid dim ond cwynion llafar.

Hefyd, mae'r Pwyllgor am weld rhagor o fanylion am oblygiadau ariannol y Bil, ac mae wedi argymell bod fersiwn ddiwygiedig o'r Memorandwm Esboniadol a'r asesiad o'r effaith rheoleiddiol yn cael eu cyflwyno yng nghyfnod nesaf y broses ddeddfu yn y Cynulliad.

"Os daw'r Bil hwn yn ddeddf, rydyn ni'n credu y byddai'n cryfhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru drwy roi pŵer i'r Ombwdsmon i ddwyn sefydliadau cyhoeddus i gyfrif," meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

"Ond rydyn ni eisiau rhagor o ddarpariaethau yn y Bil rhag bod gwaith yr Ombwdsmon yn dyblygu gwaith rheoleiddwyr, drwy sicrhau bod digon o ymgynghori cyn i'r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun.

"Rydyn ni hefyd yn credu mai da o beth fyddai cynnwys rhagor  o fanylion ariannol yn y Bil, ac rydyn ni wedi argymell bod y rhain yn cael eu cynnwys yng nghyfnod nesaf y broses ddeddfu."

Rhai o argymhellion y Pwyllgor yw:

  • Bod yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i'w gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr cyn cychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun;

  • Bod yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i gryfhau'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau o ran y Gymraeg; a

  • Bod yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol cyn Cyfnod 2, gan roi sylw i argymhellion y Pwyllgor.

 
Cynigiwyd y Bil gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad yn sgil ymchwiliad a wnaed yn ystod y Cynulliad blaenorol.  Hwn yw'r Bil cyntaf i'w ystyried sydd wedi'i gyflwyno gan bwyllgor.

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r Cynulliad cyfan ac yna bydd pleidlais yn cael ei chynnal i benderfynu a ddylai symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfu.

Rhagor o wybodaeth am y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Rhagor o wybodaeth am broses ddeddfu'r Cynulliad.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus(Cymru)Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 1 MB)