Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynyddu mewn maint i gyflawni dros bobl Cymru

Cyhoeddwyd 22/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2015

​Dylai maint y Cynulliad Cenedlaethol a'i drefniadau etholiadol fod yn faterion a gaiff eu penderfynu gan y Cynulliad ei hun gyda phobl Cymru. 

Dyna yw barn Comisiwn trawsbleidiol y Cynulliad, sy'n galw am gael datganoli'r pwerau hynny i'r Cynulliad.  Mae'r Comisiwn hefyd am weld maint y Cynulliad yn cynyddu i rhwng 80 a 100 o Aelodau er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu gwaith craffu cadarn ar ddeddfwriaeth a pholisïau wrth wynebu newid cyfansoddiadol yn awr ac yn y y dyfodol.

Dim ond 0.4% o floc Cymru fyddai uchafswm cost deddfwrfa o'r maint hwnnw.

Cyhoeddir adroddiad y Comisiwn yn erbyn cefndir o ddadleuon ynghylch dyfodol cyfansoddiad y DU a datganoli yng Nghymru. Dyma gyfraniad y Comisiwn at y ddadl honno a phwerau'r Cynulliad yn y dyfodol.

Dywedodd Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad a Chadeirydd y Comisiwn, "Caiff ein dadl ei llywio gan yr awydd i roi cyfle realistig i Aelodau graffu ar bolisïau, gweinyddiaeth, gwariant a chynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn ffordd mor gadarn ag y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

"Gyda dim ond 60 o Aelodau, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn fach yn ôl unrhyw gymhariaeth leol, genedlaethol neu ryngwladol wrthrychol.

"Does dim digon o Aelodau'r Cynulliad o bell ffordd, yn enwedig o ran eu gwaith pwyllgor, a bydd y pwysau hyn yn dwysáu wrth i'n cyfrifoldebau deddfwriaethol a chyllidol gynyddu."

Mae'r Cynulliad yn gyfrifol am awdurdodi tua £15 biliwn o wariant i ariannu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ychwanegodd y Llywydd, "Rydym am i'r Cynulliad hwn fod yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar, ac yn ddeddfwrfa sy'n cyflawni dros bobl Cymru.

"Mae Aelodau'r Cynulliad wedi cyflawni llawer i sicrhau hyn ers sefydlu'r Cynulliad.

"Fodd bynnag, bydd cryfder a llwyddiant datganoli yng Nghymru yn y dyfodol mewn perygl os na fyddwn yn cymryd camau i gyfateb maint y sefydliad â maint y dasg.

"Rwy'n falch o weld bod Senedd yr Alban heddiw yn cael cynnig mwy o bwerau dros ei weithrediad ei hun, gan gynnwys ei drefniadau etholiadol a nifer yr Aelodau yn Senedd yr Alban.  Rydym eisiau pwerau cydradd â'r Alban yn y meysydd hyn."

Yn eu trafodaethau, daeth y Comisiwn i'r casgliadau a ganlyn:

  • mae angen rhwng 80 a 100 o Aelodau ar y Cynulliad os yw am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn briodol neu graffu ar y nifer cynyddol o bolisïau a deddfwriaethau y mae'r sefydliad yn gyfrifol amdanynt;
  • mae'r disgwyliadau amlwg ar Aelodau heddiw, heb sôn am unrhyw estyniad o bwerau a chyfrifoldebau'r Cynulliad yn gwneud yr achos dros fwy o Aelodau yn un cryf iawn;
  • gyda dim ond 60 o Aelodau, mae diffyg pŵer yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mae gormod o bwysau yn cael ei roi arno;
  • mae'n fach yn ôl unrhyw gymhariaeth wrthrychol leol, genedlaethol neu ryngwladol, mae prinder penodol o Aelodau i wasanaethu ar bwyllgorau, ac mae ei gyfrifoldebau deddfwriaethol ac ariannol yn cynyddu;
  • mae Aelodau'r Cynulliad yn wynebu cylch wythnosol o waith pwyllgor, sy'n galw am lefel uchel o arbenigedd polisi, arbenigedd deddfwriaethol, arbenigedd ariannol ac arbenigedd gweithdrefnol, a hynny wedi'u hamserlennu o amgylch dau Gyfarfod Llawn lle mae lefel uchel o bresenoldeb a chyfranogiad yn arferol, ac, i lawer, ychwanegir at hyn gan ofynion rolau arwain allweddol y mae'r sefydliad yn dibynnu arnynt;
  • byddai Cynulliad o 80 o Aelodau yn parhau i fod yn isel ar gyfer deddfwrfa gwladwriaeth Ewropeaidd fach neu ddeddfwrfa is-genedlaethol yn Ewrop sy'n cynrychioli dros dair miliwn o bobl.  Er y byddai'r sefyllfa'n gwella, byddai cyfyngiadau capasiti sylweddol yn parhau;
  • byddai cynnydd i 100 o Aelodau yn dod â'r Cynulliad yn agosach at sefyllfa ddelfrydol lle y gallai pob Aelod ddatblygu arbenigedd a chanolbwyntio ar ei brif swyddogaeth, boed hynny fel deiliad swydd, llefarydd neu aelod o bwyllgor;
  • dylai maint y Cynulliad Cenedlaethol a'i drefniadau etholiadol fod yn faterion a gaiff eu penderfynu gan y sefydliad ei hun gydag ymgynghoriad llawn â phobl Cymru.  Felly, rydym yn llwyr gymeradwyo galwad y Llywydd i ddatganoli'r materion yn llawn i'r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl Etholiad Cyffredinol y DU yn 2015.