"Setliad cyfansoddiadol clir, ymarferol a gwydn": y Llywydd yn amlinellu diwygiadau adeiladol i Fil Cymru drafft

Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2015

 

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn amlinellu ym mha ffyrdd, yn ei thyb hi, y gellid gwella Bil Cymru drafft.

Bydd yn amlinellu ei chynigion ddydd Llun 16 Tachwedd, pan fydd yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i Fil Cymru drafft.

Yna, bydd yn rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo byw i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch yr un mater.

Yn y ddwy sesiwn, bydd yn amlinellu diwygiadau o sylwedd i'r Bil a fydd, yn ei thyb hi, yn cyflwyno setliad cyfansoddiadol cryfach i Gymru.

Daniel Greenberg, y cyn-ddrafftiwr seneddol a gydnabyddir yn rhyngwladol fel awdurdod ar ddrafftio deddfwriaeth, sydd wedi llunio'r fersiynau drafft amgen, ar y cyd â chyfreithwyr y Cynulliad.

Dywedodd y Fonesig Rosemary, "Rwy'n edrych ymlaen at roi tystiolaeth i'r pwyllgorau".

"Mae llawer i'w groesawu ym Mil Cymru drafft, ond mae angen gwneud rhagor o waith arno os yw am gyflwyno setliad datganoli sy'n para i Gymru sydd hefyd yn glir, yn ymarferol ac yn wydn.

"Ond nid wyf yn cuddio'r ffaith nad yw'r un o'r opsiynau yn cyflawni fy ngwir nod, sef setliad datganoli i Gymru, ac yn wir, setliad cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig, sy'n seiliedig ar yr egwyddor o sybsidiaredd - yr egwyddor na ddylai'r canol wneud dim ond y pethau hynny na ellir eu gwneud yn effeithiol ar lefel ddatganoledig.

"Rwy'n cydnabod y ffaith nad oes digon o amser, gwaetha'r modd, i gyflawni'r nod hwn cyn y cyflwynir Bil Cymru, ac felly, rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y Bil Cymru sy'n cael ei gyflwyno yn Fil y gallaf ei gefnogi fel cam ar y ffordd i setliad sy'n para.

"I'r perwyl hwnnw, mae fy nhystiolaeth yn cynnwys awgrymiadau o sylwedd ar gyfer gwella eglurder ac ymarferoldeb y Bil drafft, a chyfraniad a fydd, fe gredaf, yn gadarnhaol ac yn adeiladol.

"Er na fyddai'r newidiadau'n sicrhau canlyniad a fyddai, yn fy marn i, yn ddelfrydol, byddent yn gwella'r setliad y byddai'n rhaid i'r Cynulliad weithio gydag ef am o leiaf rai blynyddoedd wrth inni weithio gyda Llywodraeth y DU a rhannau eraill o'r DU tuag at setliad cyfansoddiadol a fyddai'n wirioneddol sefydlog ac a fyddai'n para".

Yn y sesiynau tystiolaeth, bydd y Llywydd yn amlinellu tri drafft amgen ar gyfer rhai o'r cyfyngiadau y byddai'r Bil drafft yn eu rhoi ar allu'r Cynulliad i ddeddfu.

Eu bwriad yw rhesymoli a symleiddio'r profion newydd arfaethedig ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad - a thrwy hynny wneud y setliad yn gliriach, yn fwy ymarferol ac yn fwy gwydn.

Mae'r drafftiau amgen yn canolbwyntio ar ddau beth: y profion newydd ar gyfer cymhwysedd yn seiliedig ar y gair "angenrheidiol", sef gair, fel y mae llawer o sylwebwyr wedi cytuno, sy'n cyflwyno ansicrwydd ychwanegol sylweddol i'r setliad; a nifer y cydsyniadau ychwanegol gan Lywodraeth y DU (feto Lloegr ar gyfreithiau Cymru, fel y'i gelwir) y byddai eu hangen yn y dyfodol.