SWYDDI GWAG: Cadeirydd a dau Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 28/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2022   |   Amser darllen munud

Mae’r Senedd am benodi i’r swyddi gwag a ganlyn ar gyfer Aelodau Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (i ddechrau ym mis Mawrth 2023):

  • Dau Aelod Anweithredol: (£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2-3 diwrnod y mis)
  • Cadeirydd y Bwrdd: (£25,000 y flwyddyn, amhensiynadwy, 4 diwrnod y mis)

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff sy’n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro a chynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ei chyrff cyhoeddus a noddir ganddi a chyrff cysylltiedig, Comisiwn y Senedd a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 16 Medi 2022

Rhagor o wybodaeth