Tystiolaeth gref o blaid rhoi hawliau pleidleisio i garcharorion

Cyhoeddwyd 11/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2019

Dylai carcharorion yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio, yn ôl tystiolaeth gref a gasglwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi'r argymhelliad y dylai carcharorion sydd wedi eu carcharu am lai na phedair blynedd gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd dau aelod yn gwrthwynebu'r argymhelliad.

Roedd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor hefyd yn cefnogi argymhelliad tebyg y dylai pobl ifanc 16-17 oed yn y ddalfa gael yr hawl i bleidleisio, os caiff yr oedran pleidleisio ei ostwng yng Nghymru, ac roedd dau aelod yn gwrthwynebu.

“Mae rhoi'r bleidlais i garcharorion yn fater ymfflamychol. Mae yna deimladau cryf o blaid ac yn erbyn ac rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod pob safbwynt yn cael ei glywed ac yn cael ei ystyried yn ofalus,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Wrth ddod i gyfaddawd, rydym wedi ceisio dod o hyd i ffordd dderbyniol ymlaen. Mae'n siŵr y bydd llawer yn credu bod rhoi'r bleidlais i hyd yn oed un carcharor yn gam yn rhy bell; tra bydd y rhai sy'n cefnogi rhoi'r bleidlais i bob carcharor yn siomedig nad ydym wedi bod yn fwy beiddgar.

“Wrth argymell rhoi'r bleidlais i'r rhai a ddedfrydwyd i lai na phedair blynedd, rydym wedi cydnabod y dystiolaeth a gyflwynwyd i'n hymchwiliad, barn y cyhoedd a gwahanol safbwyntiau aelodau'r pwyllgor.”

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl a sefydliadau o bob ochr i'r ddadl, gan gynnwys ymweld â charchardai yng Nghymru a Lloegr i siarad â charcharorion a staff am eu barn.

Clywyd safbwyntiau gwahanol iawn gan Gymru Ddiogelach a Chomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr.

Dywedodd Cymru Ddiogelach wrth y Pwyllgor:

“Mae carcharu person yn golygu ei fod yn colli ei ryddid, ond mae'r person hwnnw dal yn ddinesydd.

“Os yw cydraddoldeb a chynhwysiant yn bwysig i ni fel cenedl, gan gynnwys hawl dinasyddion i chwarae rhan frwd, mae Cymru Ddiogelach o'r farn bod gwrthod rhoi'r hawl honno yn ddiwahân i grŵp o ddinasyddion sydd yn y carchar am gyfnod yn tanseilio'r egwyddorion sy'n bwysig i ni.”

Dywedodd y Farwnes Newlove, Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, wrth y Pwyllgor:

“Nid wyf yn cefnogi'r syniad y dylai unrhyw un sy'n bwrw dedfryd yn y carchar gael pleidleisio.

“Mae rhywun yn cael ei anfon i'r carchar fel cosb am dorri'r gyfraith, ac mae'n bwysig iawn i ddioddefwyr glywed hynny, y cyfarwyddyd hynny yn y llys, a gweld bod hynny'n digwydd.

“Oherwydd iddyn nhw, mae mynd i'r carchar yn golygu gwrthod yr hawl, am gyfnod penodol, i'r troseddwr fyw mewn cymdeithas fel dinesydd rhydd, ac felly dylai hynny gynnwys yr hawl i gymryd rhan mewn etholiadau.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i roi'r hawl i bob carcharor o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar sy'n llai na phedair blynedd bleidleisio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Nid yw Mohammad Asghar na Mark Isherwood yn cytuno â'r argymhelliad hwn;

  • bod Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn ymrwymo i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sy'n newid yr etholfraint ar waith o leiaf chwe mis cyn unrhyw etholiad sydd i ddod; a,

  • bod Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol yn ceisio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Carchardai i sicrhau bod yr holl garcharorion cymwys wedi'u cofrestru i bleidleisio ac yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn unrhyw etholiadau y mae ganddyn nhw hawl i bleidleisio ynddynt.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, Aelodau'r Cynulliad a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (PDF, 1 MB)