Gallai'r cam o adael yr Undeb Ewropeaidd arwain at oedi hir a thagfeydd ar ffyrdd Cymru a gallai hefyd amharu ar gadwyni cyflenwi nwyddau, a hynny fel mater o drefn, os nad oes cynllunio priodol ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Ar hyn o bryd, nid oes gan nifer o borthladdoedd Cymru y seilwaith a'r capasiti ffisegol priodol i ymdrin â gwiriadau ffiniau a thollau newydd a allai fod yn ofynnol yn dilyn Brexit, meddai adroddiad newydd gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd fod Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, wedi bod yn araf i geisio cynnal cyfarfodydd gyda'i gymheiriaid yn Iwerddon ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar faterion yn ymwneud â phorthladdoedd Cymru.
Mae'r argymhellion a wneir i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
ei bod yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd porthladdoedd Cymru o dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau 'ffin feddal' rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a allai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban drwy Ogledd Iwerddon;
ei bod yn ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch cost unrhyw drefniadau tollau newydd sydd wedi'u harwain gan dechnoleg gwybodaeth yn dilyn Brexit, a sut y mae'n disgwyl y bydd hyn yn cael ei ariannu; ac
ei bod yn dechrau llunio cynlluniau wrth gefn manwl ar gyfer porthladdoedd Cymru ar gyfer senarios amrywiol y gallai’r DU eu hwynebu ar ddiwedd cyfnod hysbysiad Erthygl 50, a bod y cynlluniau wrth gefn hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Strategaeth Porthladdoedd arfaethedig.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:
"Mae Porthladdoedd Cymru yn cefnogi 18,400 o swyddi yn uniongyrchol, a llawer mwy na hynny hefyd. Ar hyn o bryd, mae Caergybi ac Abergwaun yn gweithredu ar y sail bod teithio di-dor yn digwydd o un ochr Môr Iwerddon i'r llall, a hynny o ran nwyddau a phobl. Rydym wedi dysgu bod gan lawer o borthladdoedd Cymru ddiffyg capasiti ffisegol o ran ymdopi â gwiriadau ffiniau a thollau newydd. Gallai'r sefyllfa hon gael effaith andwyol, gan gynnwys mwy o oedi a thagfeydd.
"Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai yn y diwydiant yn pryderu y gallai'r sefyllfa o gael ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon, tra bo ffin galed ar draws Môr Iwerddon, arwain at risgiau i borthladdoedd Cymru, oherwydd y gallai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban. Byddai hyn yn cael effaith economaidd ddifrifol yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad yw ein porthladdoedd a'n diwydiannau o dan anfantais annheg yn sgil Brexit."
Darllen yr adroddiad llawn:
Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru
(PDF, 3 MB)