Un o Bwyllgorau'r Cynulliad yn rhybuddio y gallai Brexit fygwth porthladdoedd Cymru ac achosi oedi ar y ffyrdd

Cyhoeddwyd 04/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/08/2017

​Gallai'r cam o adael yr Undeb Ewropeaidd arwain at oedi hir a thagfeydd ar ffyrdd Cymru a gallai hefyd amharu ar gadwyni cyflenwi nwyddau, a hynny fel mater o drefn, os nad oes cynllunio priodol ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol. 

Ar hyn o bryd, nid oes gan nifer o borthladdoedd Cymru y seilwaith a'r capasiti ffisegol priodol i ymdrin â gwiriadau ffiniau a thollau newydd a allai fod yn ofynnol yn dilyn Brexit, meddai adroddiad newydd gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd fod Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, wedi bod yn araf i geisio cynnal cyfarfodydd gyda'i gymheiriaid yn Iwerddon ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar faterion yn ymwneud â phorthladdoedd Cymru. 

Mae'r argymhellion a wneir i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • ei bod yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd porthladdoedd Cymru o dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau 'ffin feddal' rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a allai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban drwy Ogledd Iwerddon;

  • ei bod yn ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch cost unrhyw drefniadau tollau newydd sydd wedi'u harwain gan dechnoleg gwybodaeth yn dilyn Brexit, a sut y mae'n disgwyl y bydd hyn yn cael ei ariannu; ac

  • ei bod yn dechrau llunio cynlluniau wrth gefn manwl ar gyfer porthladdoedd Cymru ar gyfer senarios amrywiol y gallai’r DU eu hwynebu ar ddiwedd cyfnod hysbysiad Erthygl 50, a bod y cynlluniau wrth gefn hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Strategaeth Porthladdoedd arfaethedig.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

"Mae Porthladdoedd Cymru yn cefnogi 18,400 o swyddi yn uniongyrchol, a llawer mwy na hynny hefyd.  Ar hyn o bryd, mae Caergybi ac Abergwaun yn gweithredu ar y sail bod teithio di-dor yn digwydd o un ochr Môr Iwerddon i'r llall, a hynny o ran nwyddau a phobl. Rydym wedi dysgu bod gan lawer o borthladdoedd Cymru ddiffyg capasiti ffisegol o ran ymdopi â gwiriadau ffiniau a thollau newydd. Gallai'r sefyllfa hon gael effaith andwyol, gan gynnwys mwy o oedi a thagfeydd.

"Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai yn y diwydiant yn pryderu y gallai'r sefyllfa o gael ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon, tra bo ffin galed ar draws Môr Iwerddon, arwain at risgiau i borthladdoedd Cymru, oherwydd y gallai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban. Byddai hyn yn cael effaith economaidd ddifrifol yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad yw ein porthladdoedd a'n diwydiannau o dan anfantais annheg yn sgil Brexit."