Y Bil Senedd ac Etholiadau i gyflwyno Pleidleisiau yn 16 oed

Cyhoeddwyd 12/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/02/2019

​Heddiw, (Chwefror 12), cyflwynodd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n addo rhoi cyfle i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Cynulliad.



Yn ogystal â gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, mae'r Bil hefyd yn cynnig newid enw'r Cynulliad yn Senedd, newid y gyfraith ar anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad, a newid rhai trefniadau etholiadol a mewnol.

Ugain mlynedd ar ôl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nod y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yw sicrhau senedd mwy effeithiol a hygyrch, sy'n addas at y diben mewn tirlun gwleidyddol sy'n esblygu. Caiff y Bil ei gyflwyno yn sgil pleidlais yn y Cynulliad ym mis Hydref 2018 a roddodd fandad i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno'r ddeddfwriaeth.

Cyn cyflwyno’r Bil, bu proses faith o ymgynghori ac ymgysylltu gyda grwpiau cyhoeddus a gwleidyddol a gyda rhanddeiliaid ehangach ar ddiwygio etholiadol. Mae’n bwrw ymlaen â chyfleoedd a roddwyd yn Neddf Cymru 2017 i gryfhau senedd Cymru.



Wrth gyflwyno'r Bil ar ran y Comisiwn fel yr 'aelod sy’n gyfrifol am y Bil', dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

"Rwy'n gobeithio y bydd y Bil yn sbarduno trafodaeth ddiddorol ac ystyrlon am ein democratiaeth a'n hymgysylltiad gwleidyddol yng Nghymru.

"Y nod yw annog Aelodau, rhanddeiliaid a'r cyhoedd ehangach i gymryd rhan yn y trafodaethau ynghylch ffurf ein senedd genedlaethol yn y dyfodol.

"Bydd y ddarpariaeth i ostwng yr oedran pleidleisio i 16, rwy’n gobeithio, yn ennyn diddordeb pobl ifanc yn benodol yn y broses ddemocrataidd. Bydd y cynnig i newid enw'r Cynulliad i'r Senedd yn adlewyrchu'n well statws y sefydliad fel senedd.

"Ar ôl ugain mlynedd, mae hwn yn gyfle euraidd i adnewyddu ein democratiaeth a sicrhau bod senedd genedlaethol Cymru yn ein galluogi i wneud ein gorau ar gyfer ein hetholwyr heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

 



Gan gydnabod y bydd angen addysg wleidyddol i alluogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau gwleidyddol ac i gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau, mae'r Comisiwn eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod hyn yn digwydd.

I gychwyn y broses, mae Elin Jones AC wedi ysgrifennu at bob cyngor ysgol yng Nghymru yn tynnu eu sylw at becyn o adnoddau cysylltiedig ynghylch ennyn diddordeb pobl ifanc yn y ddadl am roi’r bleidlais iddynt yn 16 oed.  Mae'r adnoddau ar gael i bawb ar lwyfan addysg Hwb.

Bydd y Bil hefyd yn newid enw'r Cynulliad yn Senedd i adlewyrchu statws cyfansoddiadol y sefydliad ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl a chyfrifoldebau'r ddeddfwrfa. Mae'r Bil yn cynnwys cymal yn nodi bod modd cyfeirio at y Senedd fel 'Welsh Parliament' hefyd. Bwriedir i’r enw newydd ddod i rym yn gyfreithlon ym mis Mai 2020 cyn etholiad y Cynulliad yn 2021.

Bydd Elin Jones AC yn gwneud datganiad llawn yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher (Chwefror 13). Bydd y Bil yn destun proses graffu helaeth yn sesiynau pwyllgor y Cynulliad a hefyd gan bob Aelod o'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf 40 aelod yn pleidleisio o’i blaid cyn y caiff ei basio.
 



Adnewyddu Ein Democratiaeth

Mae Comisiwn y Cynulliad yn arwain diwygiadau i helpu i greu democratiaeth sy'n addas at y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth ›