Y Cynulliad Cenedlaethol ar y rhestr fer am wobr nodedig ym maes Prentisiaethau

Cyhoeddwyd 28/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2015

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau nodedig Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae'r gwobrau'n cydnabod cyflogwyr sy'n ymrwymo i ddatblygu eu gweithlu drwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill sy'n seiliedig ar waith.

Cyhoeddwyd y fideo a ganlyn ar 28 Hydref 2013 i hyrwyddo ail Gynllun Prentisiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cynllun Prentisiaeth y Cynulliad yn cynnig rhaglen hyfforddiant sy'n seiliedig ar ddysgu dros gyfnod penodol sy'n addas i bobl 16-24 oed, ac mae'n sicrhau bod ymgeiswyr yn ennill cymhwyster Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol wrth ddatblygu sgiliau gweinyddol penodol sy'n seiliedig ar waith. Mae'r cynllun presennol yn dod i ben ym mis Mai 2015, a bydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu hysbysebu drwy wefan y Cynulliad.

 

Mae'r Cynulliad wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori'r cyflogwyr mawr ar gyfer sefydliadau sy'n cyflogi rhwng 250 a 4,999 o staff.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a chyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, ar 31 Hydref.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, "Mae hon yn ffordd wych o gydnabod penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i lansio rhaglen brentisiaethau ddwy flynedd yn ôl".

"Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc mor uchel yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dylem oll wneud popeth y gallwn ei wneud i geisio cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, o amrywiaeth o gefndiroedd, ddatblygu eu sgiliau drwy gyfleoedd gwaith.

"Mae'r pedwar prentis o'r cohort cyntaf wedi cael swyddi llawnamser yn y Cynulliad ar ôl cwblhau'u prentisiaethau ac maent yn aelodau gwerthfawr o'r gweithlu.

"Bellach, rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac eleni mae gennym chwe phrentis newydd."

Ariennir y rhaglen brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru â chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Prentisiaid y cohort cyntaf oedd:

Zoe Kelland, 20 oed, o'r Rhws, a fu'n gweithio i'r timau Cyfieithu a Chofnodi a Chyswllt Cyntaf. Dywedodd, "Un o'r pethau gorau yr wyf wedi'i gael yw'r cyfle i gael swydd. Hefyd, rwyf wedi llwyddo i gael NVQ mewn Gweinyddu Busnes.

"Rwyf wedi dysgu cymaint drwy fod yn Brentis. Rwyf wedi datblygu fy sgiliau TG a chyfathrebu, ac rwyf wedi cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nigwyddiad y Gymdeithas Gofnodi Seneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIPRA) yn Llundain ac yn yr Eisteddfod. Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl ac wedi mwynhau'n fawr yn ystod fy ngyfnod yn y Cynulliad.

Melissa Nichols, 24 oed, o Gyncoed, Caerdydd, sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau. Dywedodd, "Dechrau swydd fel prentis i Gynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud o ran fy ngyrfa.

"Rwyf nid yn unig wedi llwyddo i gael NVQ mewn Gweinyddu Busnes ond rwyf wedi cael profiad gwaith amhrisiadwy. "Rwyf yn gweld fy ngydweithwyr fel pobl i'w hefelychu o ran fy natblygiad wrth i mi barhau i ddysgu oddi wrthynt.

"Mae'n bleser dweud fy mod bellach yn aelod parhaol o staff y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau, ac rwy'n edrych ymlaen at yrfa werthfawr gyda'r Cynulliad."

Dywedodd Morgan Reeves, 19 oed, o Faesteg, sydd wedi treulio ei brentisiaeth yn y tîm Rheoli Cyfleusterau: "Mae'r Cynllun Prentisiaeth wedi rhoi cyfle amhrisiadwy i mi ddeall sut mae'r Cynulliad yn gweithio ac i feithrin sgiliau yn un o sefydliadau allweddol y sector cyhoeddus.

"Drwy gydol y cynllun, rwyf wedi aeddfedu fel person ac wedi magu hyder ynof fi fy hun ac yn fy ngwaith.

"Rwyf wedi datblygu perthnasau gwaith ardderchog ynghyd â sgiliau gweinyddol a sgiliau sy'n gysylltiedig â rheoli cyfleusterau. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn lle gwych i weithio iddo ac mae'n cynnig llawer o lwybrau gyrfaol posibl."

Ychwanegodd Emily Morgan, 23 oed, o'r Barri, a fu'n gweithio i'r Adran Adnoddau Dynol: "Bu'r Brentisiaeth hon yn brofiad amhrisiadwy sydd wedi rhoi'r sgiliau, y cymwysterau, y wybodaeth a'r profiad gwaith sydd eu hangen arnaf i gael swydd barhaol yn y Cynulliad.

"Rwyf wedi llwyddo i gael cymhwyster sydd wedi'i gydnabod yn genedlaethol ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phobl wahanol, gan ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o fywyd y Cynulliad."

Mae'r Cynllun Prentisiaeth yn cynnig rhaglen hyfforddiant sy'n seiliedig ar ddysgu dros gyfnod penodol (15 mis) gydag ymgeiswyr yn ennill cymhwyster y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, a ddarperir gan Goleg Caerdydd a'r Fro, mewn cymwyseddau penodol sy'n seiliedig ar waith a sgiliau gweinyddol cyffredinol. Caiff ymgeiswyr hefyd eu hyfforddi a'u mentora er mwyn helpu i'w cyflwyno i amgylchedd gwaith a'u helpu i baratoi ar gyfer bywyd mewn swyddfa waith.