Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei alw yn ôl i drafod diwydiant dur Cymru

Cyhoeddwyd 30/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2016

Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi galw'r Cynulliad yn ôl i drafod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru.

 

Cynhelir y cyfarfod am 13.30 ddydd Llun 4 Ebrill. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i'r Cynulliad cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.

Dywedodd y Fonesig Rosemary:

"Yn dilyn cais gan y Prif Weinidog, credaf fod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru yn fater o bwysigrwydd cyhoeddus y dylid ei drafod ar fyrder. Felly, rwyf wedi penderfynu galw'r Cynulliad yn ôl i gyfarfod ddydd Llun 4 Ebrill."

Cynhelir y cyfarfod yn Siambr Hywel, cyn siambr drafod y Cynulliad Cenedlaethol, yn Nhŷ Hywel. Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd Tŷ Hywel ar gael yma.

Nifer gyfyngedig o lefydd gwag sydd ar gael yn yr oriel gyhoeddus. Dylai unrhyw un sydd am fod yn bresennol gysylltu â llinell archebu'r Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 6565 neu anfon e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru.

Bydd mannau eraill ar ystâd y Cynulliad yn cael eu neilltuo er mwyn i'r cyhoedd wylio'r trafodion ar sgriniau mawr.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw ar Senedd tv.