Y Cynulliad yn arbed arian ac yn gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr
Mae uchafbwyntiau'r adroddiad blynyddol eleni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys rhagori ar y targedau i arbed arian a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
Llwyddodd Comisiwn y Cynulliad i arbed mwy na hanner miliwn o bunnoedd, gan ragori ar ei darged yn y maes hwn.
Mae'r llwyddiannau eraill yn cynnwys:
- Croesawu 83,680 o ymwelwyr â'r Senedd, sydd 8 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol;
- Mwy na 26,000 o bobl yn mynd ar daith o amgylch y Senedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef 20 y cant yn fwy na'r deuddeg mis blaenorol;
- Mwy na 27,000 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn sesiynau gyda'r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc, a'r rheiny'n eu hysbysu a'u cynnwys, a'u grymuso i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth;
- Cael ein cydnabod gan y sefydliad Working Families yn un o'r 10 cyflogwr gorau yn y DU o ran bod yn ystyriol o deuluoedd; a
- Chyrraedd y pumed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2017, yn ogystal â chael ein dyfarnu y cyflogwr sector cyhoeddus gorau yn y DU a'n henwi y sefydliad gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Meddai Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:
"Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi blwyddyn o gyflawni a newid wedi'i reoli'n dda. Mae datblygiadau deddfwriaethol a chyfansoddiadol mawr ar y gorwel, ac mae ein hymdrechion i ymgysylltu â'r cyhoedd ar y materion sydd o bwys iddynt yn bwysicach nag erioed. Mae gennym raglen uchelgeisiol i'w chyflawni, gan ddwyn y llywodraeth i gyfrif, a gwneud gwaith y Cynulliad yn fwy perthnasol a hygyrch. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn amlinellu ein blaenoriaethau wrth inni geisio datblygu ar yr hyn a gyflawnwyd."
Meddai Elin Jones AC, y Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad:
"Mae'n rhaid i'n sefydliad barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth trwy wella'n barhaus. Mae'r adroddiad hwn yn dangos enghreifftiau o newid sylweddol trwy gydol y flwyddyn, ac o'r modd yr ydym wedi cyflawni blaenoriaethau uchelgeisiol."
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2016–17 (PDF, 9 MB)