Y Llywydd a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i ymgyrch "No Bystanders" Stonewall

Cyhoeddwyd 24/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ymrwymo'r Cynulliad i ymgyrch Stonewall i annog pobl i herio bwlio staff yn y gweithle.

Bydd yn gwneud yr addewid mewn prif araith gerbron Cynhadledd Y Gweithle Stonewall Cymru, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ar 24 Hydref.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Rydym ar adeg bwysig yn hanes hawliau pobl hoyw, mae'n gyfnod o newid mawr ac yn amser i edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd yn y DU a beth sydd ar ôl i'w gyflawni yma ac mewn mannau eraill.

"Er ein bod yn cofio'r rhyddid a'r amddiffyniadau y gall pobl Lesbiaidd, Hoyw a phobl Ddeurywiol eu mwynhau yn y DU, mae'n bwysig cofio bod gwaith eto i'w wneud i hyrwyddo cydraddoldeb LHD drwy ein cymdeithas, gan gynnwys yn y gweithle, i herio aflonyddu, camdriniaeth a gwahaniaethu.

"Mae ymgyrch "No Bystanders" Stonewall yn ein hatgoffa bod heriau yn ein hwynebu o hyd, ac rwy'n falch o ddweud, ynghyd â staff ac Aelodau etholedig ar draws Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rwyf wedi cymryd yr addewid i herio bwlio ac iaith dramgwyddus.  Fel sefydliad, rydym yn llwyr gefnogi'r ymgyrch.

"Un o'n hamcanion strategol craidd yw pwysigrwydd ymgysylltu â phobl Cymru. Fel y corff democrataidd allweddol yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn cynrychioli ac yn cynnwys pob un o bobl Cymru yn ein gwaith."

Yn ystod ei haraith, bydd y Fonesig Rosemary yn amlinellu sut mae'r Cynulliad yn gweithio gyda Stonewall Cymru i fynd i'r afael â'r mater o wahaniaethu yn erbyn aelodau LHD o'n cymuned, yn y gweithle a thu hwnt.

Mae gan y Cynulliad rwydwaith staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, ac mae'n nodi Mis Hanes LHDT a Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia bob blwyddyn, a gosodwyd y Cynulliad yn yr 11fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall eleni, ac fe'i henwyd yn y Mynegai fel Prif Gyflogwr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Ychwanegodd y Llywydd: "Mae ein hymrwymiad i ymestyn at holl bobl Cymru yn rheswm dros fod yn rhan o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, yn rheswm pam rydym yn y mynegai cydraddoldeb yn y gweithle, pam mae gennym rwydwaith staff, pam rydym yn bresennol yn Pride, yn nodi Mis Hanes LHDT a'r Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a pham rwyf fi yma heddiw."