Y Llywydd yn cael ei hanrhydeddu ym Mhalas Buckingham

Cyhoeddwyd 30/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gwneud yn Fonesig Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig mewn seremoni ym Mhalas Buckingham.

Rhoddwyd yr anrhydedd iddi am ei gwasanaethau gwleidyddol a chyhoeddus i fenywod a democratiaeth.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae'n anrhydedd fawr mynd i Balas Buckingham a chael fy nghydnabod am y gwaith rwyf wedi'i wneud.

"Ond nid gwobr ar gyfer fy ngwaith i'n unig yw hon, mae'n wobr hefyd ar gyfer y bobl sydd wedi gweithio gyda mi ac ar fy rhan dros yr holl flynyddoedd yr wyf wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth ar y rheng flaen.

"Mae'r anrhydedd hefyd yn deyrnged i fy nheulu sydd wedi fy annog a'm cefnogi i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a cheisio newid pethau er gwell.

"Mae hefyd yn cydnabod fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a fydd, gobeithio, yn annog mwy o fenywod yng Nghymru i gyflawni swyddi cyhoeddus a sicrhau y caiff llais menywod ei glywed yn y broses o wneud penderfyniadau."

Mae'r Llywydd wedi ymroi i fywyd cyhoeddus ers pedwar degawd, gan gynnwys bod yn Aelod Cynulliad cyntaf Gorllewin Casnewydd ers 1999. Mae wedi gwasanaethu Cymru fel Gweinidog Addysg cyn-16 a Phlant, fel Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad ac fel Llywydd y Cynulliad.

Mae ei gwaith i annog menywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus wedi cynnwys sefydlu Fforwm Menywod Casnewydd, sy'n darparu bwrsari i helpu menywod i gael yr hyder i gyflawni eu nodau.

Ers cael ei hethol yn Llywydd yn 2011 mae wedi rhoi'r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu yn gadarn ar frig yr agenda wleidyddol drwy ei hymgyrch "Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus"#POWiPL.

Yn sgîl yr ymgyrch honno, enwyd y Llywydd yn Aelod y Flwyddyn ymysg y Seneddau a Chynulliadau Datganoledig yng ngwobrau blynyddol Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus, a gynhaliwyd yn Llundain.

O dan arweinyddiaeth y Fonesig Rosemary, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi datblygu'n fodel enghreifftiol yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth, gan sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol ar sawl ffurf, gan gynnwys cael ei enwi gan The Times ymhlith y 50 cyflogwr gorau ar gyfer menywod yn y DU.