Y Llywydd yn galw am weithredu i annog "Merched i feysydd STEM"

Cyhoeddwyd 25/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/02/2015

​Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw am fwy o weithredu i annog rhagor o fenywod i ymgymryd â gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Bydd y Fonesig Rosemary yn gwneud yr alwad yn ystod araith yn y gynhadledd "Merched i yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg", a drefnir gan Career Women Wales yn Siambr Hywel, ar 27 Chwefror.

Dywedodd y Llywydd, "Pe bai deg o bobl yn yr ystafell a'ch bod yn gofyn iddynt pwy yw Albert Einstein, neu Isaac Newton, byddai canran uchel yn gallu dweud wrthych eu bod ymhlith gwyddonwyr enwocaf a mwyaf y byd.

"Ond pe baem yn gofyn i'r deg o bobl hynny pwy oedd Marie Curie, neu a oeddynt yn adnabod Barbara McClintock neu Maria Myer, rwy'n amau y byddai'r ffactor adnabyddiaeth yn llawer is.

"Roedd pob un ohonynt yn arweinwyr yn eu meysydd gwyddonol perthnasol, a phob un wedi ennill Gwobrau Nobel ac, wrth edrych ar bersonoliaethau gwyddonol ar y teledu, efallai y cewch ambell un a fydd yn adnabod Alice Roberts neu Miranda Krestovnikoff, ond maent yn eithriad i'r rheol, gyda llawer o raglenni gwyddoniaeth ar y teledu yn cael eu cyflwyno gan wyddonwyr, archeolegwyr neu beirianwyr gwrywaidd.

"Yr unig reswm dros ddefnyddio'r cynsail yw tynnu sylw at y pwynt ehangach o'r canfyddiad o fenywod o fewn y gymuned wyddonol, a'r tu allan iddi, a sut y maent yn wynebu rhwystrau i yrfaoedd, a'r swyddi uchaf yn arbennig, yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg."

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Women In Science Engineering & Technology (WISE) yn dangos mai dim ond 13% o swyddi STEM yn y gweithlu sy'n cael eu gwneud gan fenywod.

Er bod merched yn dueddol o berfformio'n well na bechgyn mewn pynciau STEM, mae ymchwil hefyd yn dangos bod y cyfranogiad hwn yn disgyn ar ôl 16 oed.

Bydd y Llywydd yn dweud wrth y gynhadledd, "Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod cyfranogiad merched mewn pynciau STEM yn disgyn yn ystod Safon Uwch, yn enwedig mewn pynciau fel Ffiseg.

"A ddylai modelau rôl gael eu hyrwyddo mor gynnar ag yn yr ysgol gynradd, neu ar adegau o wneud penderfyniadau allweddol, fel Blwyddyn 9 neu Flwyddyn 11, pan fydd menywod ifanc yn gwneud dewisiadau o ran pynciau TGAU a Safon Uwch?

"Mae'r rhain yn faterion ac yn gwestiynau yr wyf am eu gwthio i frig yr agenda a buaswn yn annog pob sector i wynebu'r heriau, boed yn athrawon neu'n wyddonwyr sy'n gweithio mewn sectorau nad ydynt yn y maes addysg, i edrych ar sut y gallent gymryd rhan mewn darpariaeth mentora i fenywod ifanc."

Ychwanegodd Sarah Rees, Career Women Wales: "Penderfynwyd cynnull cynhadledd ar yrfaoedd yn y meysydd STEM gan fod ffigurau moel sy'n dangos gostyngiad enfawr mewn cyfranogiad menywod o addysg i gyflogaeth. 

"Mae swyddi STEM yn rhan greiddiol o'r adferiad economaidd a gyda dim ond 13% o fenywod yn cael eu cyflogi yn y sector, 'syniadau peryglus' yw'r union beth sydd eu hangen i wneud newidiadau radical."