Y Pwyllgor Cyllid yn ymateb i'r cytundeb Fframwaith Cyllidol

Cyhoeddwyd 19/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2016

​Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymateb i'r cytundeb Fframwaith Cyllidol a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Mae'r cytundeb yn gweithio allan sut y bydd cyllideb Cymru, sef y grant bloc a roddir i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth San Steffan, yn cael ei haddasu yn sgil trosglwyddo peth o'r cyfrifoldeb dros godi trethi.

Mewn datganiad ysgrifenedig heddiw (19 Rhagfyr), meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, y bydd y cytundeb yn sicrhau ariannu teg i Gymru yn y tymor hir drwy weithredu'r terfyn ariannu a argymhellir gan Gomisiwn Holtham.

Mae Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, wedi croesawu penderfyniad y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, a bydd y Pwyllgor yn edrych ar fanylion y fframwaith cyllidol pan fydd yn dychwelyd yn y Flwyddyn Newydd. Nid yw manylion y fframwaith wedi’u cyhoeddi eto, ac mae’r Cadeirydd wedi nodi ei obaith y bydd y manylion yn cael eu darparu ar frys gan y ddwy Lywodraeth er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith craffu digonol gan y Pwyllgor Cyllid a hefyd y Cynulliad yn ei gyfanrwydd.

“Mae fframwaith cytûn yn hanfodol ar gyfer datganoli'r ddau fil y mae'r pwyllgor yn eu trafod ar hyn o bryd, ac ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol sydd ar ddod,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Simon Thomas AC.

"Bydd y Pwyllgor yn ystyried y fframwaith yn y Flwyddyn Newydd ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi Aelodau i gyfrannu'n effeithiol at y ddadl a dod i benderfyniad ar Fil Cymru a datganoli cyllidol."