Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) drwy ddiffodd pob golau yn y Senedd rhwng 20.30 a 21.30 ddydd Sadwrn 28 Mawrth.
Mae Awr Ddaear WWF yn ddigwyddiad byd-eang blynyddol lle mae pobl a sefydliadau yn cael eu hannog i ddiffodd eu goleuadau am awr i godi ymwybyddiaeth o'r ynni a ddefnyddir.
Ychwanegodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd:
"Rydym yn falch iawn o'n nodweddion gwyrdd yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn falch ein bod yn cefnogi Awr Ddaear WWF unwaith eto eleni.
"Y disgwyl yw y bydd dros 160 o wledydd yn cymryd rhan yn yr Awr Ddaear eleni. Dylem i gyd fod yn ymwybodol o'n defnydd o ynni a'r effaith y mae'n ei chael ar yr amgylchedd."
Mae'r Cynulliad wedi gostwng ei ôl troed carbon 35% er 2008, a hon yw'r bedwaredd flwyddyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi'r Awr Ddaear.
Dywedodd Peter Black AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am ystâd a chynaliadwyedd y Cynulliad:
"Rydym yn falch iawn o gefnogi digwyddiad Awr Ddaear WWF, a hoffwn annog pawb yng Nghymru i ddangos eu cefnogaeth, os gallant, drwy ymuno â ni gan ddiffodd eu goleuadau nos Sadwrn."
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar, a dyna pam y cafodd yr amgylchedd ei roi wrth wraidd y gwaith o ddylunio'r Senedd, gyda nifer o nodweddion gwyrdd arloesol yn rhan ganolog o'r adeilad."
Mae'r Cynulliad wedi gostwng ei ôl troed carbon 35% er 2008, a hon yw'r bedwaredd flwyddyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi'r Awr Ddaear.