Ymateb y Llywydd i adroddiad Comisiwn Smith

Cyhoeddwyd 27/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/04/2015

​Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Smith ar ddyfodol datganoli yn yr Alban:

"Mae Comisiwn Smith wedi gweithio'n gyflym i lunio ei gynigion o ran y camau nesaf i'r Alban. Rwyf wedi dweud yn aml ei bod yn bwysig bod newid cyfansoddiadol yn cynnwys pob cenedl yn y DU - nid yr Alban yn unig.

"Trwy gydol hanes datganoli yn y DU, mae newidiadau i'r setliad cyfansoddiadol yn yr Alban yn aml wedi arwain at newidiadau tebyg yng Nghymru.

"A dweud y gwir, mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud y bydd gan bobl Cymru hefyd fwy o lais am eu pethau eu hunain.

"Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r cynigion yn fanylach ac at weld yr elfennau y byddai'n fuddiol eu hystyried o ran Cymru."

Cyfarfu'r Llywydd â Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar 24 Tachwedd 2014 i drafod datganoli yn y dyfodol yng Nghymru.

Yn y cyfarfod, canolbwyntiodd y Llywydd ar y materion canlynol:

  • Pwerau a gedwir yn ôl – bydd symud i fodel o bwerau a gedwir yn ôl yn helpu i chwalu peth o'r ansicrwydd ynghylch rôl a chyfrifoldebau'r Cynulliad. Bydd yn fodd i'r Cynulliad ddeddfu'n fwy effeithiol ac yn fwy hyderus;

  • Gallu - mae'r Llywydd wedi bod yn galw ers tro am i nifer Aelodau'r Cynulliad godi i 80 o leiaf er mwyn sicrhau bod gennym y gallu i ddatblygu'r arbenigedd sydd ei angen i ddwyn Gweinidogion y Llywodraeth i gyfrif mewn ffordd gadarn o ran eu cynigion codi trethi, deddfu a pholisi;

  • Sofraniaeth - y Cynulliad, yn hytrach na San Steffan, a ddylai fod yn gallu penderfynu ar ei ddyfodol ei hun a bod â rheolaeth dros y penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad, ei drefniadau etholiadol a'i reolau mewnol, gan greu'r cyfreithiau gorau posibl i bobl Cymru.